Ysgolhaig, hanesydd, mytholegydd a gramadegwr o Roeg oedd Apollodorus (Groeg: Ἀπολλόδωρος), a elwir weithiau yn Apollodorus o Athen (tua 180 CC - ar ôl 120 CC).

Apollodorus
Ganwydc. 180 CC Edit this on Wikidata
Athen yr henfyd Edit this on Wikidata
Bu farw120 CC Edit this on Wikidata
Athen yr henfyd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAthen yr henfyd Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, bardd, ysgrifennwr, pensaer, mythograffydd, athronydd, ieithegydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amChronicle Edit this on Wikidata
Mae Apollodorus yn enw Groeg cyffredin. Erthygl am yr hanesydd a mytholegydd yw hon. Am y pensaer Syriaidd o dras Groegaidd gweler Apollodorus o Ddamascus. Am bobl eraill o'r un enw gweler Apollodorus (gwahaniaethu).
Am waith y "Ffug-Apollodorus" ar fytholeg Roegaidd, gweler Bibliotheke.

Roedd yn fab i'r ysgolhaig Groegaidd Asclepiades. Roedd yn ddisgybl i Diogenes o Fabilon, Panaetius y Stoïg, a'r grammadegwr Aristarchus o Samothrace. Ar ôl gweithio am gyfnod yn ninas Alexandria bu rhaid iddo ffoi oddi yno tua'r flwyddyn 146 CC, efallai i ddinas Pergamum, ac oddi yno i Athen. Am gyfnod credid mai ef oedd awdur y Bibliotheca, y llyfr enwocaf ar fytholeg y Groegiaid, ond gwyddys erbyn hyn ei fod yn waith diweddarach.

Gwaith llenyddol golygu

  • Cronicl (Χρονικά), hanes Groeg ar gân o gwymp Caerdroea yn y 12g CC hyd tua 143 CC, wedi ei sylfaenu ar weithiau cynharach gan Eratosthenes o Cyrene. Cysegrir y gerdd i Attalus II Philadelphus.
  • Am y Duwiau (Περι θεων), hanes crefydd y Groegiaid a fu'n ffynhonnell bwysig i awduron diweddarach, e.e. Philodemus.
  • Traethawd mewn 12 llyfr ar Gatalog y Llongau yn Iliad Homer, sy'n dilyn gwaith Eratosthenes o Cyrene a Demetrius o Scepsis, ac sy'n astudiaeth o ddaearyddiaeth Homer dros y canrifoedd. Dibynnodd Strabo am hyn am lyfrau 8-10 ei Geographica.
  • Mae gweithiau eraill a gysylltir ag ef yn cynnwys gwaith ar etymoleg ac astudiaethau o waith y beirdd Epicharmus o Cos a Sophron.
  • Gwyddom am nifer o weithiau eraill gan Apollodorus sydd heb oroesi.
  • Am ei fod mor enwog yn yr Henfyd cafodd sawl gwaith diweddarach ei dadogi arno. Ef yw awdur traddodiadol y gwaith enwocaf ar fytholeg y Groegiaid a adnabyddir fel y Bibliotheca, neu'r Llyfrgell, ond gwyddom erbyn hyn na ellir fod yn waith dilys Apollodorus am ei fod yn dyfynnu awduron a ysgrifennai rhai canrifoedd ar ôl ei farwolaeth. Am hynny, cyfeirir at awdur y Bibliotheca heddiw fel y Ffug-Apollodorus.

Cyfeiriadau golygu

  • Simon Hornblower (gol.), The Oxford Classical Dictionary (Rhydychen, 1996)

Dolenni allanol golygu