Aran Fawddwy

mynydd (905m) yng Ngwynedd

Mae Aran Fawddwy yn fynydd yn ne Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd.

Aran Fawddwy
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr905 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.78702°N 3.68786°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH8627222387 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd670 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaYr Wyddfa Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Enw golygu

Daw'r enw o gwmwd Mawddwy, oedd yn cynnwys y wlad o gwmpas rhan uchaf Afon Dyfi.

Uchder golygu

Gyda uchder o 905 medr, Aran Fawddwy yw mynydd uchaf Cymru ac Ynys Prydain i'r de o'r Wyddfa. Aran Fawddwy yw'r copa uchaf ar y grib sy'n rhedeg tua'r de-orllewin o gyffiniau Llanuwchllyn tua Dolgellau, sydd hefyd yn cynnwys Aran Benllyn sydd fymryn yn is, ac yna'n parhau tua'r gorllewin fel Cadair Idris, gyda Bwlch Oerddrws yn gorwedd rhwng dwy ran y gadwyn; cyfeiriad grid SH862223. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 235 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 905m (2969tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Ionawr 2004.

Daearyddiaeth golygu

Y pentrefi agosaf i'r mynydd yw Dinas Mawddwy i'r de, Llanymawddwy i'r de-ddwyrain, Rhydymain i'r gorllewin a Llanuwchllyn tua'r gogledd. Ar lechweddau dwyreiniol Aran Fawddwy mae llyn bychan Creiglyn Dyfi, lle mae Afon Dyfi yn tarddu.

Llwybrau golygu

Gellir dringo'r mynydd o'r de o Gwm Cywarch, sy'n rhedeg tua'r gogledd o Ddinas Mawddwy. Ffordd arall o gyrraedd y copa yw dringo Aran Benllyn o Lanuwchllyn, ac yna dilyn y grib dros dir corslyd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu