Mae Arcadia (Groeg: Αρκαδία) yn ardal yn y Peloponnesos yn rhan ddeheuol Gwlad Groeg; yn y cyfnod modern mae'n "Nomos" (Νομός), un o brif raniadau Groeg. Daw'r enw o'r cymeriad mytholegol Arcas. Y brifddinas yw Tripoli.

Arcadia
Mathnomau Groeg, regional unit of Greece Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlArcas, Arcadia Edit this on Wikidata
PrifddinasTripoli Edit this on Wikidata
Poblogaeth102,035, 90,943, 96,092, 105,454 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPeloponnesos Edit this on Wikidata
GwladGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Arwynebedd4,419 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.4936°N 22.3559°E Edit this on Wikidata
Cod post22x xx Edit this on Wikidata
GR-12 Edit this on Wikidata
Map
Arcadia

Ardal wledig a mynyddig yw Arcadia, ac yn ystod ail hanner yr 20g bu diboblogi yn broblem; disgwylid y byddai'r boblogaeth yn haneru rhwng 1951 a dechrau'r 21ain ganrif, gyda llawr o'r trigolion yn ymfudo i gyfandir America.

Yn llenyddiaeth y cyfnod clasurol, daeth Arcadia i gael ei hystyried fel rhyw fath ar baradwys wledig, gyda bugeiliaid yn byw yn syml ac yn hapus; er enghraifft gan Fyrsil yn ei Eclogau, ac yn ddiweddarach gan Jacopo Sannazaro yn ei fugeilgerdd Arcadia (1504). Roedd cyswllt arbennig rhwng Arcadia a'r duw Pan. Mae ymadrodd Lladin Et in Arcadia ego ("Rwyf yn Arcadia hefyd") yn esiampl o memento mori, rhywbeth sy'n atgoffa am freuder bywyd a sicrwydd marwolaeth. Mae'r ymadrodd yn ymddangos ar fedd yn y darlun "Bugeiliaid Arcadia" gan Nicolas Poussin (1647).