Arcangelo Corelli

cyfansoddwr a aned yn 1653

Cyfansoddwr a fiolinydd o'r Eidal oedd Arcangelo Corelli (17 Chwefror 16538 Ionawr 1713).

Arcangelo Corelli
GanwydArcangelo Corelli Edit this on Wikidata
17 Chwefror 1653 Edit this on Wikidata
Fusignano Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ionawr 1713 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTaleithiau'r Babaeth Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, fiolinydd, fiolydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amConcerti grossi, op. 6, Twelve Violin Sonatas, Op.5 Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth faróc, cerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Mudiadcerddoriaeth faróc Edit this on Wikidata

Cyfansoddodd nifer o sonatas i'r fiolin ac yn ogystal sefydlodd y concerto grosso fel ffurf gerddorol. Daeth y concerto grosso, sy'n cyferbynu grŵp bach o offerynnau â cherddorfa lawn, yn un o hoff ffurfiau'r cyfansoddwyr baroc yn y 18g.

Gwaith mwyaf adnabyddus Corelli yw Concerto'r Nadolig.

Gwaith cerddorol golygu

Mae chwech opus yn cael eu derbyn fel gwaith Corelli, ynghŷd ag ambell waith arall:

  • Opus 1: 12 sonatas da chiesa (trio o sonatas i 2 fiolin a continuo) (Rhufain 1681)
  • Opus 2: 12 sonatas da camera (trio o sonatas i 2 fiolin a continuo) (Rhufain 1685)
  • Opus 3: 12 sonatas da chiesa (trio o sonatas i 2 fiolin a continuo) (Rhufain 1689)
  • Opus 4: 12 sonatas da camera (trio o sonatas i 2 fiolin a continuo) (Rhufain 1694)
  • Opus 5: 12 Suonati a violino e violone o cimbalo (6 sonatas da chiesa a 6 sonatas da camera i fiolin a continuo) (Rhufain 1700)
  • Opus 6: 12 concerti grossi (8 concerti da chiesa a 4 concerti da camera i'r concertino o 2 fiolin a tsielo, ripieno llinynnol a continuo) (Amsterdam 1714)
  • op. post.: 6 Sonate a tre WoO 5–10 (Amsterdam 1714)
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:



   Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.