Cymdogaeth mewn tref neu ddinas lle mae puteindra a'r diwydiant rhyw yn ffynnu yw ardal golau coch. Bathwyd y term Saesneg gwreiddiol "red-light district" yn yr Unol Daleithiau yn 1894, mewn erthygl yn The Sentinel, papur newydd ym Milwaukee, ond ceir tystiolaeth am fodolaeth ardaloedd o'r math ers gwawr gwareiddiad. Mae'r term "ardal golau coch" yn fenthyciad diweddar i'r Gymraeg, er bod hen gysylltiad rhwng y lliw coch a rhyw yn niwylliant Cymru.

Ardal golau coch
Mathcymdogaeth, ardal adloniant Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ardal golau coch Amsterdam gyda'r nos

Ceir sawl damcaniaeth sy'n ceisio esbonio'r cysylltiad rhwng "goleuadau coch" ac ardaloedd lle gwerthir rhyw a phleserau rhywiol. Arferid hongian llusernau papur coch y tu allan i buteindai yn y Tsieina hynafol, er enghraifft, er mwyn eu dynodi. Cysylltir y lliw coch â phuteindra ers canrifoedd lawer. Yn chwedl Rahab yn y Beibl, mae putain o Jericho yn cynorthwyo ysbïwyr Joshua ac yn gadael rhaff o liw ysgarlad yn hongian o'i ffenestr. Ysgarlad yw lliw Hwran Babilon yn Llyfr y Datguddiad hefyd. Yn fwy diweddar, yn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yna nifer o buteindai yn Ffrainc a Gwlad Belg ar gyfer y milwyr; defnyddid lampiau glas i ddynodi lleoedd ar gyfer y swyddogion a lampiau coch ar gyfer y milwyr cyffredin.

Un o'r amryw o dermau sy'n cyfateb i "ardal golau coch" yn y Siapaneg yw akasen (赤線), sy'n golygu "llinell goch". Roedd yr heddlu yn Japan yn arfer tynnu llinell goch ar fapiau i ddangos lleoliad ardaloedd golau coch cyfreithlon (mewn cyferbyniad, ceir y term aosen (青線), "llinell las", i ddynodi ardal anghyfreithlon). Ceir sawl enw amgen am ardaloedd golau coch o gwmpas y byd, e.e. Khanki Para (Bengaleg: "Cymdogaeth Puteiniaid"), Quartier chaud (Ffrangeg, "Cymdogaeth Gynnes"), a.y.y.b., yn ogystal â sawl term ac enw ar lafar, llai llednais.

Ceir ardaloedd golau coch mewn nifer o ddinasoedd a threfi o gwmpas y byd. Mae ardaloedd golau coch enwog yn cynnwys ardal De Wallen yn Amsterdam, Patpong yn Bangkok, Soho yn Llundain a Yoshiwara a Roppongi yn Tokyo. Yng Nghymru roedd ardal dociau Caerdydd - 'Tiger Bay' - yn adnabyddus am ei phuteiniaid.