Arglwydd Edward FitzGerald

Cenedlaetholwr Gwyddelig oedd Arglwydd Edward FitzGerald (15 Hydref 1763 - 4 Mehefin 1798).

Arglwydd Edward FitzGerald
Ganwyd15 Hydref 1763 Edit this on Wikidata
Carton House Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mehefin 1798 Edit this on Wikidata
Carchar Newgate, Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Iwerddon Edit this on Wikidata
TadJames Fitzgerald Edit this on Wikidata
MamEmily Fitzgerald Edit this on Wikidata
PriodPamela Fitzgerald Edit this on Wikidata
PlantPamela, Lucy FitzGerald, Edward Fox Fitzgerald Edit this on Wikidata
LlinachFitzGerald dynasty Edit this on Wikidata

Roedd FitzGerald yn bumed mab i James FitzGerald, Dug 1af Leinster, a Duges Leinster. Ganed ef gerllaw Dulyn, ac addysgwyd ef yn breifat. Ymunodd a'r Fyddin Brydeinig yn 1779, ac ymladdodd yn Rhyfel Annibyniaeth America hyd 1782. Dychwelodd i Iwerddon yn 1783, ond ail-ymunodd a'r fyddin yn ddiweddarach a bu'n gwasanaethu yng Nghanada.

Roedd ei frawd, 2il Ddug Leinster, wedi trefnu iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol dros Swydd Kildare. Roedd yn frwd dros y Chwyldro Ffrengig, ac aeth i ddinas Paris yn Hydref 1792, gan aros gyda Thomas Paine. Priododd ferch o'r enw Pamela tra yn Ffrainc. Ymunodd a Cymdeithas y Gwyddelod Unedig yn 1796; cymdeithas a oedd erbyn hynny yn anelu at greu gweriniaeth annibynnol yn Iwerddon.

Daeth yn un o arweinwyr y Gymdeithas erbyn Gwrthryfel Gwyddelig 1798. Roedd dyddiad dechrau'r gwrthryfel wedi ei bennu fel 23 Mai, ond ar 18 Mai rhoddodd gŵr o'r enw Magan wybod i'r awdurdodau ymhle yr oedd FitzGerald, oedd yn ei wely yn diddef gan dwymyn. Clwyfwyd ef wrth geisio dianc, a bu farw o'i glwyfau yng ngharchar Newgate, Dulyn ar 4 Mehefin.