Ars longa, vita brevis

Erthygl am yr ymadrodd yw hon. Am yr albwm gan The Nice gweler Ars Longa Vita Brevis (albwm).

Ymadrodd Lladin sy'n deillio o wireb yng ngwaith y meddyg Groeg enwog Hippocrates yw "Ars longa, vita brevis". Ei ystyr yw "Byr yw bywyd."

Ffurf wreiddiol yr ymadrodd yn y llyfr Groeg Gwirebau, (adran. I, rhif. 1) yw “Ὁ βίος βραχύς, ἡ δὲ τέχνη μακρή” sy'n rhoi "Ars longa, vita brevis" yn Lladin. Yr ystyr lythrennol yw "Byr yw bywyd, hir yw['r] grefft."[1] Mae'n rhan o adran yn y gwaith sy'n trafod yr amser sydd ei angen i'r meddyg ddod i ddeal pob agwedd ar ei grefft: "Byr yw bywyd, hir yw['r] grefft, byr pob cyfle, camarweiniol profiad, anodd yw barnu." Mae'n cael ei dyfynnu, gyda geirio gwahanol, gan y dramodydd ac athronydd Seneca'r Ieuaf yn ei draethawd De brevitate vitæ (Ar fyrhoedledd bywyd).

Cyfeiriadau golygu

  1. Morwood, James. A Dictionary of Latin Words and Phrases (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1998), t. 22.