Artaxerxes III, brenin Persia

Brenin Ymerodraeth Persia rhwng 358 CC a 338 CC oedd Artaxerxes III, brenin Persia, (Hen Berseg: Artaxšaçrā, c. 425 CC - 338 CC), enw gwreiddiol Ochus.

Artaxerxes III, brenin Persia
Ganwyd425 CC Edit this on Wikidata
Bu farw1 Awst 338 CC Edit this on Wikidata
o gwenwyn Edit this on Wikidata
Babilon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Ymerodraeth Achaemenaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
SwyddPharo, brenin Edit this on Wikidata
TadArtaxerxes II, brenin Persia Edit this on Wikidata
MamStateira Edit this on Wikidata
PriodAtossa Edit this on Wikidata
PlantArtaxerxes IV, brenin Persia, Parysatis II, Bistanes Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllyn yr Achaemenid Edit this on Wikidata

Roedd yn fab i Artaxerxes II. Bu'n satrap ac yn gadfridog cyn olynu ei dad ar yr orsedd yn 358 CC. Roedd un o'i frodyr wedi ei ddienyddio ac un arall wedi ei ladd ei hun cyn marwolaeth Artaxerxes II yn 90 oed. Llofruddiodd Artaxerxes III y gweddill o'r teulu brenhinol wedi dod i'r orsedd.

Bu'n ymgyrchu yn yr Aifft ddwywaith. Methodd yr ymgyrch gyntaf, ond yn 343 CC, gorchfygodd Artaxerxes frenin yr Aifft, Nectanebo II, a'i yrru o'r wlad, gan ddychwelyd yr Aifft i'r Ymerodraeth.

Olynwyd ef gan ei fab, Arses, fel Artaxerxes IV.

Rhagflaenydd:
Artaxerxes II
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia
358 CC338 CC
Olynydd:
Artaxerxes IV
Rhagflaenydd:
Nectanebo II
Brenin yr Aifft
343 CC338 CC
Olynydd:
Artaxerxes IV