Heneb Neolithig yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr yw Arthur's Stone (sef "Carreg Arthur" yn Gymraeg). Fe'i lleolir bron i 1000 troedfedd uwch lefel y môr ar ben bryn rhwng Bredwardine a Dorstone.

Arthur's Stone
Mathcromlech, siambr gladdu, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDorstone Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.0822°N 2.99541°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganEnglish Heritage Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethEnglish Heritage Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Arthur's Stone

Math o siambr gladdu o gyfnod Oes Newydd y Cerrig a elwir yn siambr gladdu gellog gan yr archaeolegwyr ydyw. Credir iddi gael ei chodi rhwng tua 3,700CC a 2,700CC. Mae'r pridd a'i gorchuddiai wedi mynd a dim ond y meini sy'n aros erbyn hyn, fel cromlech.

Mae'n un o sawl heneb yng ngwledydd Prydain a enwir ar ôl y Brenin Arthur (bl. 5g), ond does dim cysylltiad hanesyddol rhwng yr arwr hwnnw a'r heneb.

Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Henffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.