Arwyddlun Tsieineaidd

Arwyddlun Tsieineaidd neu Hanzi yw'r geirarwyddion (logogramau) a ddefnyddir i ysgrifennu ieithoedd Tsieina. Rhennir Hanzi yn arwyddluniau traddodiadol a symledig.

Yr arwyddlun am Hanzi. Du: traddodiadol; coch: symledig

Gellir rhannu arwyddluniau Tsieineaidd yn bum categori:

  • pictogramau (yn cyfleu darlun): 月 = lleuad, 日 = haul
  • ideogramau syml (yn cyfleu syniad): 下 = oddi tan, 上 = uwchben
  • ideogramau cyfansawdd: 日+月 = 明 = clir
  • ffonogramau (yn cyfleu ystyr trwy wreiddyn a rhan ffonetig)
    • e.e.: 女 (gwreiddyn: ‘merch’ + 马 (elfen ffonetig ‘ma’ (ceffyl)) = 妈 ‘mam’
  • arwyddluniau benthyg: i gyfleu syniadau haniaethol, defnyddir arwyddlun sydd eisoes mewn bodolaeth
    • e.e.: 象(eliffant) hefyd yn cael ei ddefnyddio am “yn debyg i”

Ffonogramau yw tua 90% o'r arwyddluniau a ddefnyddir heddiw. Mae tua 56,000 o arwyddluniau Hanzi wedi eu cofnodi, rhai ohonynt yn rhai na ddefnyddir mwyach. Byddai angen gwybod tua 3,000 o arwyddluniau i ddarllen papur newydd Tsieineaidd, tra disgwylid i Tsieinëeg diwylliedig wybod tua 7,000 ar gyfartaledd.

Symleiddiwyd yr arwyddluniau yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yn 1950 dan Mao Zedong. Defnyddir y dull symledig yn Singapôr hefyd, ond mae Taiwan yn defnyddio'r dull traddodiadol.

Kanji yw'r enw a roddir ar arwyddluniau Tsieinëeg a gaiff eu defnyddio yn system ysgrifennu Japaneg.