Rîff, ynys fechan, neu gadwyn o ynysoedd cwrel ar ffurf cylch neu bedol o gwmpas lagŵn yw atol[1][2] neu gylchynys.[2] Ceir yng nghefnoroedd y byd, yn arbennig yn y Cefnfor Tawel. Fel rheol mae'n cynnwys un neu ragor o riffiau cwrel a ffurfir gan organebau morol. Daw'r enw o'r gair atolu, am ynysoedd o'r math yn iaith ynysoedd y Maldives.

Atol
Daearyddiaeth
Atol yn Ynysoedd Marshall.

Mae atolau enwog yn cynnwys atol Bikini.

Cyfeiriadau golygu

  1.  atol. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2014.
  2. 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, [atoll].
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.