Roedd Attila (c.406 – Mawrth 453) yn frenin yr Hyniaid, a enillodd iddo'i hun y llysenw "Fflangell Duw".

Attila
GanwydMileniwm 1. Edit this on Wikidata
Cawcasws Edit this on Wikidata
Bu farw453 Edit this on Wikidata
o mygu Edit this on Wikidata
Pannonia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHunnic Empire Edit this on Wikidata
Galwedigaethpenadur Edit this on Wikidata
Swyddking of the Huns Edit this on Wikidata
TadMundzuk Edit this on Wikidata
PriodKreka, Ildico, Eskam's daughter Edit this on Wikidata
PlantEllac, Dengizich, Ernakh Edit this on Wikidata

Y cynghrair golygu

Yn 434 daeth yn gyd-frenin, gyda'i frawd, ar ffederasiwn lac o nifer fawr o lwythi Hun o ganolbarth Asia a oedd ar wasgar rhwng Môr Caspia ac Afon Daniwb. Cyn bo hir roedd gan Attila Fandaliaid, Ostrogothiaid, Gepidiaid a Ffranciaid yn ymladd dan ei faner yn ogystal ac roedd yn rheoli tiriogaeth a ymestynnai o Afon Rhein yn yr Almaen i Sgythia ar ffin orllewinol Tsieina.

Ymosod ar Ymerodraeth y dwyrain golygu

Yn 447 arweiniodd gyfres o gyrchoedd dinistriol ar yr holl daleithiau Rhufeinig rhwng y Môr Du a'r Môr Canoldir. Gorchfygodd yr ymerodr Theodosius II mewn tair brwydr waedlyd a dim ond ei muriau trwchus ac anwybodaeth yr Hyniaid â'u cynghreiriad o dactegau gwarchae a achubodd Gaergystennin rhag syrthio. Goresgynnwyd Thrace, Macedon a gwlad Groeg ei hun hefyd a chymhellwyd Theodosius i ildio tiriogaeth i'r de o Afon Daniwb ac i dalu teyrnged arian i Attila.

Gâl golygu

Yn 451 ymosododd Attila ar Gâl, ond llwyddodd Aetius, y pennaeth Rhufeinig, a'i gynghreiriad Theodoric, brenin y Visigothiaid, i godi ei warchae ar ddinas Orléans a'i drechu'n llwyr wedyn mewn brwydr gostus ar wastadedd Catalaunia, ger Châlons-sur-Marne.

Y cyrch ar Rufain golygu

Tynnodd Attila yn ôl i Hwngari, ond y flwyddyn ar ôl hynny gwnaeth cyrch i'r Eidal gan anrheithio Aquileia, Milan, Padova a dinasoedd Rhufeinig eraill. Dim ond ymyrraeth bersonol Pab Leo I, a roddodd swm anferth o arian i Attila, a achubodd ddinas Rhufain ei hun rhag cael ei dinistrio.

Bu farw Attila yn 453, yn fuan wedi ei briodas i dywysoges Fwrgwynaidd o'r enw Ildeco, a chyda'i farwolaeth bu trai ar ymerodraeth yr Hun.

Cymeriad chwedlonol golygu

Mae Attila yn gymeriad yn y Nibelungenlied Almaeneg dan yr enw Etzel ac yn ymddangos fel Atli yn y Völsunga Saga Hen Islandeg.

Oherwydd iddo farw yn ei wely fel canlyniad i waedlif drom, fe ymddengys, ymledodd sïon fod ei wraig Ildeco wedi llofruddio Attila er mwyn dial arno.