Auschwitz oedd y mwyaf o wersylloedd difa y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd; yma y lladdwyd canran uchel o'r rhai a laddwyd yn yr Holocost. Roedd rhan ohono hefyd yn wersyll crynhoi. Cymer ei enw o'r dref gyfagos, Oświęcim mewn Pwyleg, Auschwitz mewn Almaeneg. Mae'r dref tua 50 km i'r dwyrain o Kraków a 286 km o Warsaw. Roedd tri prif wersyll: Auschwitz I, y ganolfan weinyddol; Auschwitz II (Birkenau), y Vernichtungslager neu wersyll difa; ac Auschwitz III (Monowitz), gwersyll gwaith. Sefydlwyd Auschwitz I ar 20 Mai, 1940, a dechreuwyd adeiladu Auschwitz II (Birkenau) yn Hydref 1941. Mae rhywfaint o ansicrwydd faint yn union o bobl a laddwyd yn Auschwitz. Tystiodd pennaeth y gwersyll, Rudolf Höss i hyd at 2.5 miliwn farw, ond y farn gyffredinol yn awr yw i rhwng 1.1 miliwn a 1.6 miliwn gael eu lladd. Lladdwyd y mwyafrif yn y siamberi nwy yn Birkenau, gan ddefnyddio nwy Zyklon-B. Mae Auschwitz I ac Auschwitz II wedi eu dynodi fel Safle Treftadaeth y Byd.

Auschwitz
Mathgwersyll crynhoi Natsïaidd, amgueddfa, gwersyll difa, ensemble pensaernïol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlOświęcim Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol20 Mai 1940 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 20 Mai 1940 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Nifer a laddwyd1,100,000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAuschwitz-Birkenau State Museum Edit this on Wikidata
SirSir Oświęcim Edit this on Wikidata
GwladGwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Arwynebedd192 ha, 191.97 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.0358°N 19.1783°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd, immovable monument Edit this on Wikidata
Manylion
Y porth i mewn i Auschwitz I. Mae'r geiriau uwchben y giat yn dweud Arbeit macht frei ("Mae gwaith yn rhyddhau")
Amlosgfa yn Auschwitz I
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Pwyl. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.