Ail lythyren yr wyddor Ladin a'r wyddor Gymraeg yw B. Mewn nifer o ieithoedd mae'r llythyren hon yn cael ei defnyddio i ddynodi'r ffrwydrolyn dwywefusol lleisiol /b/.

Yn y Gymraeg mae b yn cael ei heffeithio gan dreigladau meddal a thrwynol, yn ogystal â bod yn ffurf dreigledig ar y llythyren p.

Treigladau golygu

  • Meddal - Try b /b/ yn f /v/ yn ôl treiglad meddal: Bangor → i Fangor
    • B yw ffurf p /p/ wedi'i treiglo'n feddal: pioden → y bioden
  • Trwynol - Try b yn m /m/ yn ôl treiglad trwynol: bol → ym mol
  Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.