Mae Béja (Arabeg: باجة) yn ddinas yng ngogledd-orllewin Tiwnisia ac yn brifddinas y dalaith o'r un enw. Fe'i lleolir 105 km i'r gorllewin o Diwnis, gyda phoblogaeth o 56,677.

Béja
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth109,299 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iGibellina, Beja Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBéja Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd13.05 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr222 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.7256°N 9.1817°E Edit this on Wikidata
Cod post9000 Edit this on Wikidata
Map
Béja

Gorwedd Béja yng nghanol un o'r rhanbarthau gwyrddaf a mwyaf ffrwythlon yn y wlad, wrth droed mynyddoedd y Khroumirie ac mewn cwm agored sy'n ymestyniad o ddyffryn mawr afon Medjerda. Mae ei thirwedd yn gymsgfa o ardaloedd coediog a bryniau canolog sy'n codi o wastadiroedd a chymoedd is sy'n cael eu hamaethu ar raddfa helaeth.

Mae'r ddinas ei hun yn eithaf modern. Mae'r rheilffordd yn ei chysylltu â Thiwnis i'r dwyrain a Jendouba ger y ffin ag Algeria i'r gorllewin.

Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.