Bardd Normanaidd a flodeuodd yn y 12g oedd Béroul. Cyfansoddodd y gerdd Tristan, fersiwn Eingl-Normaneg o chwedl Trystan ac Esyllt sydd wedi goroesi fel testun anghyflawn a darniog o tua 3000 llinell; dyma'r testun cynharaf o'r fersiwn "werinol" o'r chwedl yn llenyddiaeth y Ffrancod a'r Eingl-Normaniaid (gyda'r fersiwn "llysol" yn cael ei chynrychioli gan y drylliau o gerdd Thomas o Brydain). Ysgrifennodd yr Almaenwr Eilhart von Oberge ymdriniaeth o'r testun yn Almaeneg, ac mae nifer o ddigwyddiadau o fersiwn Béroul yn ail-ymddangos yn y testun diweddarach a elwir yn 'Chwedl rhyddiaith Trystan'.

Gweler hefyd golygu

Dolen allanol golygu