Band roc Almaenig oedd Böhse Onkelz. Sefydlwyd y band ym mis Tachwedd 1980 yn Hösbach gan Stephan "Der W" Weidner, Kevin Russell a Peter "Pe" Schorowsky, fel band roc pync wedi eu dylanwadu gan fandiau megis y Sex Pistols a'r Ramones.

Böhse Onkelz
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Label recordioRock-O-Rama Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1980 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1980 Edit this on Wikidata
Genrepync caled Edit this on Wikidata
Yn cynnwysStephan Weidner Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.onkelz.de/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r enw yn gam-sillafiad pwrpasol o "ewythrod drwg" (böse Onkels), sy'n derm plentynnaidd Almaeneg am oedolion drwg. Yn ôl Weidner ar eu DVD "20 Jahre: Live in Frankfurt", crewyd yr enw pan ddygwyd sled gan rai yn eu harddegau, a dywedodd un ohonynt "Hey, da sind die bösen Onkels schon wieder" (Hei, dacw'r ewythrod drwg yn dwad eto).

Arhosodd aelodau'r band yr un peth tan i Matthias Röhr (a gafodd y llysenw Gonzo ar ôl albwm Ted Nugent 'r un enw) ymuno ym 1981. Yn gerddorol, ef oedd y mwyaf profiadol yn y grŵp; roedd wedi bod yn chwarae gîtar am chwe mlynedd, ac wedi bod yn aelod o fandiau eraill megis Antikörper. Gan fod Weidner eisoes yn chwarae'r gîtar, dechreuodd Matthias ar y gîtar fâs, ond cyfenewidiodd y ddau offerynnau cyn rhyddhau Soundtracks zum Untergang 2. Roedd y band yn weithgar yn ardal Frankfurt am Main i gychwyn.

Dolenni allanol golygu