Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Drepanidae yn urdd y Lepidoptera yw bachadain y derw, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy bachadenydd y derw; yr enw Saesneg yw Oak Hook-tip, a'r enw gwyddonol yw Watsonalla binaria.[1][2] Fe'i ceir yn y rhan fwyaf o Ewrop, ar wahân i'r gogledd eithaf. Mae'n eitha cyffredin hefyd yn Lloegr a Chymru.

Bachadain y derw
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonWatsonalla Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Watsonalla binaria
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Drepanidae
Genws: Drepana
Rhywogaeth: D. binaria
Enw deuenwol
Drepana binaria
Hufnagel, 1767
Cyfystyron
  • Falcaria binaria
  • Watsonalla binaria

Mae'r oedolyn benywaidd yn fwy na'r gwryw: y naill yn 35 mm a'r llall yn 30 mm, ond maent yn debyg iawn o ran lliw.

Mae'n nhw'n dodwy ddwywaith y flwyddyn a gwelir yr oedolyn ar ei adain ym Mai ac ym Mhefefin. Ar adegau cânt eu gweld yn hedfan yn ystod y dydd, ond yn y nos fel arfer; cânt eu denu at olau.

Prif fwyd y siani flewog ydy gwernen, bedwen a ffawydden.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r bachadain y derw yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.


  Eginyn erthygl sydd uchod am wyfyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.