Badakhshan (talaith)

Mae Badakhshan (Perseg: بدخشان Badakhshān) yn un o daleithiau Affganistan, sy'n cynnwys 29 ardal. Lleolir y dalaith yng ngogledd-ddwyrain y wlad, rhwng pen gogleddol yr Hindu Kush a'r Amu Darya. Mae'n rhan o ranbarth hanesyddol Badakhshan. Fayzabad yw prifddinas y dalaith.

Badakhshan
MathTaleithiau Affganistan Edit this on Wikidata
PrifddinasFayzabad Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,054,087 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethShah Waliullah Adeeb Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:30 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Dari, Wsbeceg, Pashto, ieithoedd Pamir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAffganistan Edit this on Wikidata
GwladBaner Affganistan Affganistan
Arwynebedd44,059 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3,669 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTakhar, Khyber Pakhtunkhwa Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38°N 71°E Edit this on Wikidata
AF-BDS Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
llywodraethwr Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethShah Waliullah Adeeb Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Badakhshan yn Affganistan

Mae Badakhshan yn ffinio ar Tajikistan i'r gogledd a'r dwyrain. Ymestyn rhimyn tenau o'r dalaith, a adnabyddir fel Coridor Wakhan, uwchben talaith Chitral yng ngogledd Pacistan i ffinio â Tsieina. Mae gan y dalaith cyfanswm o 44,059 km² o dir, gyda'r rhan fwyaf ohono yn cael ei llenwi gan fynyddoedd uchel yr Hindu Kush a'r Pamir.

Roedd Badakhshan yn gorwedd ar Lwybr y Sidan, yr hen lwybr masnach a gysylltai Tsieina a'r Dwyrain Canol trwy Ganolbarth Asia. Ers cwymp y Taliban mae llywodraeth Tsieina wedi cyfrannu'n sylweddol at gost prosiectau i wella ffyrdd y dalaith, efallai gyda golwg ar ei chyfoeth mwynol.

Tajikiaid yw'r mwyafrif o'r 1,542,000 trigolion, gyda lleiafrifoedd Uzbek a Kyrgyz.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o weddill Affganistan, mae'r Sunni yn ffurfio mwyafrif o'r boblogaeth, a cheir yn ogystal lleiafrif Mwslem Ismailia. Oherwydd y gwahaniaethau ethnig ac enwadol hyn, ni fu'r dalaith erioed yn gadarnle i'r Taliban. Ar sawl ystyr mae'r ardal yn agosach yn ddiwyllianol i wledydd Mwslim Canolbarth Asia i'r gogledd, fel Kyrgyzstan.

Taleithiau Affganistan Baner Affganistan
Badakhshan | Badghis | Baghlan | Balkh | Bamiyan | Daykundi | Farah | Faryab | Ghazni | Ghor | Helmand | Herat | Jowzjan vJowzjan | Kabul | Kandahar | Kapisa | Khost | Kunar | Kunduz | Laghman | Lowgar | Nangarhar | Nimruz | Nurestan | Oruzgan | Paktia | Paktika | Panjshir | Parwan | Samangan | Sar-e Pol | Takhar | Wardak | Zabul