Bae Penrhyn

pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Ardal a phentref fawr yng nghymuned Llandudno, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Bae Penrhyn (Saesneg: Penrhyn Bay).[1] Saif ar yr arfordir gerllaw Rhiwledyn, rhwng Llandudno a Llandrillo-yn-Rhos. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Llanrhos. Yn wreiddiol, Penrhyn oedd enw'r graig i'r dwyrain o Fae Llandudno (a elwir heddiw yn y Trwyn y Fuwch neu Little Orme), ond wrth i'r lle ddatblygu daeth yr enw "Bae Penrhyn" i olygu'r datblygiadiadau newydd a'r bae sydd i'r dwyrain o Drwyn y Fuwch (Gogarth Fach).[2] Gyferbyn iddo (hynny yw, i'r dwyrain o Fae Penrhyn) saif Ochr y Penrhyn (Saesneg: Penrhynside).[3]

Bae Penrhyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.31°N 3.77°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH822812 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map
Bae Penrhyn gyda'r pentref

Yr adeilad hynaf yma yw Hen Neuadd Penrhyn, cartref y teulu Pugh. Roedd y teulu yma yn reciwsantiaid Catholig yn niwedd y 16g. Ar 14 Ebrill 1587, cafwyd hyd i wasg gudd ar gyfer llenyddiaeth Gatholig mewn ogof ar Riwledyn, a gafodd ei defnyddio gan Robert Pugh o'r Penrhyn a'i gaplan y Tad William Davies i argraffu Y Drych Cristianogawl (gan Robert Gwyn neu Gruffydd Robert), y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Llochesant yno i geisio dianc yr erledigaeth ar Gatholigion a gychwynwyd gan Elisabeth I o Loegr ym Mai 1586. Ceir adfeilion capel canoloesol cysegredig i'r 'Forwyn Fair o'r Penrhyn', wrth lethrau isaf Rhiwledyn ger Hen Neuadd Penrhyn; rhoddwyd y gorau i'w ddefnyddio ym 1930.

Ceir yma eglwys, tafarn, llyfrgell a nifer o siopau. Tyfodd Bae Penrhyn yn sylweddol yn ystod yr 20g, pan ddaeth yn faesdref i Landudno.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 24 Tachwedd 2021
  2. Gwefan Llên Natur Archifwyd 2016-03-14 yn y Peiriant Wayback.; awdur: Ieuan Wyn; adalwyd 07/12/2012
  3. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), tt. 373, 214