Balham, Llundain
Ardal faestrefol ym Mwrdeistref Llundain Wandsworth, Llundain Fwyaf, Lloegr, ydy Balham.[1] Saif tua 4.5 milltir (7.2 km) i'r de-dde-orllewin o ganol Llundain.[2]
Math | ardal o Lundain |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Wandsworth |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.4434°N 0.1525°W |
Cod OS | TQ285735 |
Cod post | SW12 |
Lleolir Balham rhwng pedair comin yn ne Llundain: Clapham Common i'r gogledd, Wandsworth Common i'r gorllewin, Tooting Graveney Common i'r de, a Tooting Bec Common i'r dwyrain. Ardaloedd cyfagos yw Streatham, Brixton a Battersea.
Mae poblogaeth Pwyliaid yr ardal wedi cynyddu yn sylweddol ers 2006, er fod Balham wedi bod yn ganolfan i'r gymuned ers yr Ail Ryfel Byd. Hefyd mae yn Balham gyfran uchel o bobl o Somalia, Pacistan a Brasil.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ British Place Names; adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ Yn draddodiadol, ystyrir Charing Cross fel canol Llundain, a mesurir pellteroedd i'r brifddinas o'r pwynt hwnnw.