Baner drilliw lorweddol o stribedi gwyrdd a melyn, i gynrychioli adnoddau naturiol Gabon (yn enwedig ei choed), a glas, i gynrychioli'r môr, yw baner Gabon. Mabwysiadwyd ar 9 Awst, 1960; y flwyddyn cyn, defnyddiwyd baner debyg fel y faner genedlaethol swyddogol. Roedd ganddi stribedi o'r un lliwiau, ond roedd yr un melyn llawer mwy cul, ac roedd y faner Ffrengig yn y canton. Rhoddwyd y gorau i'r dyluniad hwn yn sgil annibyniaeth oddi ar Ffrainc.

Baner Gabon
Baner Gabon (1959-1960)

ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gabon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.