Baner Gogledd Iwerddon

Baner yr Undeb yw'r unig faner swyddogol yng Ngogledd Iwerddon. Rhwng 1952 a 1973 defnyddiwyd baner Ulster, sef maes gwyn gyda chroes goch. Yng nghanol y groes mae seren wen chwe-phwynt gyda Llaw Goch Ulster yn ei chanol a choron uwch ei phen;

Baner swyddogol Gogledd Iwerddon
Baner swyddogol Gogledd Iwerddon (1953–1972)

Addasiad yw Baner Wlster o Faner Lloegr gyda choron Lloegr a symbol yr Unoliaethwyr. Mae'n dal i gael ei defnyddio gan rhai Unoliaethwyr.

Mae gweriniaethwyr Gogledd Iwerddon yn gwrthod y ddwy faner swyddogol yn gyfangwbl ac yn arddel yn eu lle Baner Iwerddon.

Ffynonellau golygu

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.