Baner Gwlad Groeg

Mae gan faner Gwlad Groeg naw stribed llorweddol, pump yn las a phedwar yn wyn, gyda chroes wen ar gefndir glas yn y canton. Mabwysiadwyd yn 1822 yn ystod y rhyfel am annibyniaeth oddi ar yr Otomaniaid. Mae'r naw stribed yn cynrychioli'r nifer o silliau yn y rhyfelgri "Rhyddid neu Farwolaeth" (Ελευθερία ή Θάνατος, E-lef-the-ri-a i Tha-na-tos), tra bo glas yn cynrychioli'r awyr a'r môr a gwyn yn cynrychioli purdeb y frwydr dros annibyniaeth i'r Groegiaid. Cynrychiola Uniongrededd Groegaidd, crefydd sefydledig y Groegiaid, gan y groes.

Baner Gwlad Groeg

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)