Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch oren, stribed is gwyrdd, a stribed canol gwyn gyda chylch oren yn ei ganol yw baner Niger. Mae oren yn cynrychioli anialwch y Sahara, gwyrdd yn symboleiddio ffrwythlondeb a gobaith, gwyn yn cynrychioli purdeb a diniweidrwydd, a'r ddisg oren yn symboleiddio'r haul ac ebyrth y bobl i sicrháu cyfiawnder ac hawliau dynol. Mabwysiadwyd ar 23 Tachwedd 1959.

Baner Niger

Ffynhonnell golygu

  • Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).