Baner drilliw fertigol gyda stribedi chwith a dde coch a stribed canol gwyn yw baner Periw. Dewisiwyd y lliwiau gan José de San Martín (El Liberador) ar gyfer Lleng Periw; roedd y lliwiau'n cofio Ymerodraeth yr Inca. Llwyddodd San Martín i arwain byddin a enillodd annibyniaeth ar Sbaen yn 1819. Roedd nifer o wahanol ddyluniadau (rhai ohonynt yn cynnwys haul euraidd yn eu canol; cafodd hwn ei dynnu o'r faner gan Simón Bolívar yn 1824) cyn i'r dyluniad cyfredol gael ei fabwysiadu ar 25 Chwefror, 1825.

Baner Periw
Baner wladwriaethol Periw

Fel baneri eraill y cyn-drefedigaethau Sbaenaidd, gosodir arfbais y wlad yn ei chanol pan defnyddir fel lluman gwladwriaethol neu lyngesol.

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Beriw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.