Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch gwyn, stribed canol glas, a stribed is coch gyda'r arfbais genedlaethol wedi'i gosod yng nghanol y faner tuag at y hoist yw baner Slofacia. Mae'r lliwiau yn lliwiau y mudiad pan-Slafaidd. Defnyddiwyd yn gyntaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i efelychu baner Rwsia; edrychodd y Slofaciaid i'r Rwsiaid am gymorth wrth ennill annibyniaeth oddi ar Deyrnas Hwngari. O 1919 tan 1993 roedd Slofacia'n rhan o Tsiecoslofacia ynghyd â'r Weriniaeth Tsiec; defnyddiwyd baner Tsiecoslofacia.

Baner Slofacia

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd baner drilliw lorweddol gyda stribedi gwyn, glas, a choch gyda'r arfbais yn y canol. Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 1 Medi, 1992.

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Slofacia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato