Astudiaeth hanes, symbolaeth, defodau, dylunio, a gwneuthuro baneri yw banereg.[1]

Baner y FIAV - International Federation of Vexillological Associations

Ceir cymdeithas Banereg Cymru fel cymuned anffurfiol ar Facebook.[2]

Mae'r iaith Saesneg a sawl iaith arall yn defnyddio'r gair 'vexillology' o'r Lladin, vexillum, fel gwraidd eu gair am faneriaeth neu banereg. Mae'r gair yn dod o'r gair Lladin am fath o faner sgwâr a gariwyd gan y marchoglu Rufeinig.[3];

Defnydd o Liw golygu

Mae nifer o'r rheolau neu confensiynau ar gyfer llunio baner yn seiliedig ar reolau herodraeth. Ymysg y rhain, mae Rheol Tintur ar gyfer y defnydd i liwiau a luniwyd gan y Cymro, Humphrey Lhuyd yn 1568. Rheol syml Lhuyd oedd "dim metal ar fetal, na lliw ar liw". Hynny yw, er enghraifft, dim delwedd lliw melyn ar gefndir gwyn, neu lliw gloch ar gefndir las. Yn hyn o beth, mae baner Cyprus yn torri'r rheol "metal ar fetal" (aur ar arian, hynny yw, melyn ar wyn) a baner Albania yn torri'r rheol "dim lliw ar liw" (du ar lain goch).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) flag (heraldry). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ionawr 2014.
  2. "Banereg Cymru". Facebook. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2023.
  3. "Vexillum". www.merriam-webster.com. Merriam-Webster Dictionary. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 September 2020. Cyrchwyd 15 September 2020.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am faner neu fanereg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.