Bangor

dinas yng Ngwynedd

Dinas a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Bangor. Mae ganddi boblogaeth o tua 15,000 (neu tua 21,735 gan gynnwys ei chyrion). Mae Prifysgol Bangor, Pontio ac Eglwys Gadeiriol Bangor yn y ddinas. Bangor yw canolfan Esgobaeth Bangor a sedd Esgob Bangor. Yr enw llawn tan yn ddiweddar oedd 'Bangor Fawr yn Arfon'. Yn yr 20g, cafodd Bangor sefydliad pellach, gan gynnwys pencadlys gogleddol y BBC yng Nghymru ac yn ystod y rhyfel, o 1941 i 1944, symudodd adran adloniant ysgafn y BBC o Lundain i'r dre.[1]

Bangor
Mathdinas, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth16,358 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethOwen Hurcum Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSoest Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd648.57 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.228°N 4.128°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000046 Edit this on Wikidata
Cod OSSH580722 Edit this on Wikidata
Cod postLL57 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Bangor Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethOwen Hurcum Edit this on Wikidata
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map
Mae'r erthygl yma'n cyfeirio at Fangor, Gwynedd, gogledd Cymru. Gweler Bangor (gwahaniaethu) am leoedd eraill a elwir yn Fangor.

Daearyddiaeth golygu

Mae rhannau hynaf Bangor yn gorwedd yn nyffryn Afon Adda, sy'n wastadedd cyfyng rhwng dwy res o fryniau a red o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae'r dyffryn yn agored i'r môr yn y dwyrain ar y bae bychan mewn braich agored o Afon Menai. Uwchlaw'r eglwys gadeiriol mae'r Stryd Fawr hir, gul, tra bod prif adeiladau'r coleg yn coronni'r bryn i'r gogledd. I'r de o'r ddinas mae bryn coediog, serth Mynydd Bangor yn codi i 300 troedfedd. I'r gorllewin rhed Ffordd Caernarfon allan o'r ddinas dan y bont reilffordd ar hyd dyffryn Afon Adda; yma mae Ysbyty Gwynedd, nifer o stadau tai a datblygiadau siopau newydd gan gynnwys archfarchnadoedd mawrion.

Rhwng Bangor ac Ynys Môn, mae dwy bont: Pont Y Borth a Phont Britannia. Mae Pont Britannia yn fawr, gyda dwy lefel ar ben ei gilydd, ar y lefel uchaf mae ffordd geir, ac ar y lefel isaf mae rheilffordd. Adeiladwyd Pont y Borth gan Telford; hon oedd bont grog fwya'r byd ar un cyfnod ac mae'n gul, oherwydd ei hoed, a does dim caniatâd pasio arno.

Hanes golygu

 
Eglwys gadeiriol Bangor
 
Yn edrych draw o fynydd Bangor

Yn ôl traddodiad sefydlodd Deiniol Sant fynachlog (clas) ar lannau Afon Adda yn y 6g. Mae enw'r dref yn dod o'r gair bangor, sef "clawdd plethiedig" neu'r tir a amgeir ganddo (llan). Cafodd Deiniol ei gysegru'n esgob cyntaf Bangor gan Dyfrig Sant (Dubricius).

Ymddengys fod y fynachlog a'r hen eglwys gadeiriol wedi parhau i sefyll hyd 1071 nes iddynt gael eu llosgi gan y Normaniaid. Ailadeiladwyd yr eglwys gadeiriol tua 1102 dan nawdd Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, ond iddi gael ei dinistrio unwaith yn rhagor gan luoedd y brenin John o Loegr yn 1210 pan ymosododd ar Wynedd. Claddwyd Gruffudd ap Cynan a'i ŵyr Owain Gwynedd yn y gadeirlan. Fe'i adeiladwyd o'r newydd bron yn y 13g.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Bangor yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Yn y 13g, sefydlwyd mynachlog fymryn i'r gogledd o'r hen dref gan Urdd y Dominiciaid. Ym 1557, sefydlwyd ysgol rad, sef Ysgol Friars ar y safle hwnnw. Mae'r ysgol yn parhau i fodoli, er ei bod wedi symud safle sawl gwaith.

Yn raddol tyfodd tref fechan o gwmpas yr eglwys gadeiriol ond nid oedd yn llawer mwy na phentref tan ddiwedd y 18g pan agorwyd chwareli llechi Penrhyn ac adeiladwyd porthfa newydd yn Abercegin, fymryn i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas. Gydag agoriad ffordd newydd Thomas Telford (yr A5 heddiw) ac wedyn Pont y Borth yn 1826 daeth Bangor yn ganolfan cludiant o bwys a datblygodd yn gyflym. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn 1848. Yn 1883 rhoddwyd siartr bwrdeistref i'r ddinas ac yn 1885 adnabuwyd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru â siartr brifysgol.

Yn yr 1960au sefydlwyd yma'r gell gyntaf o Cymdeithas yr Iaith a arweiniodd y ffordd i weddill Cymru drwy greu ymgyrchoedd newydd dros y Gymraeg megis y frwydr dros Ysgol Uwchradd Gymraeg ym Mangor; yma hefyd yr argraffwyd copiau cyntaf o Dafod y Ddraig.

Gwelodd Bangor ddatblygiadau mawr yn yr 20g gyda nifer o dai yn cael eu codi ar ymyl y ddinas, yn arbennig ar y bryn lle saif y coleg (Bangor Uchaf) ac ar gyrion y dref ym Maesgeirchen.

Pêl-droed golygu

Mae tîm y dref yn un o'r hynaf yng Nghymru gan iddo gael ei sefydlu yn 1876. Tan y 2000'au arferid chwarae ar gae "Ffarar Road".[2]

Y Pier golygu

 
Pier y Garth o Fiwmaris
 
Bangor, 1778

Mae gan Fangor y pier ail hiraf yng Nghymru (y nawfed hiraf yng ngwledydd Prydain), sy'n ymestyn 1,500 troedfedd (472 medr) i Afon Menai. Fe'i lleolir tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas ei hun, yn ymyl Y Garth, sy'n rhoi ei enw iddo'n swyddogol er mai fel Pier Bangor y mae'n cael ei adnabod gan bawb bron. Bu bron iddo gael ei ddymchwel yn 1974 oherwydd ei gyflwr ar y pryd. Ond gwrthwynebwyd y cynllun gan bobl leol ac erbyn hyn mae'r pier wedi cael ei drwsio (rhwng 1982 a 1988) ac yn adeilad rhestredig Graddfa II.

Porth Penrhyn golygu

Ar ochr ddwyreiniol y ddinas ar lan Afon Menai mae porthladd bychan Porth Penrhyn, oedd o bwysigrwydd mawr yn y 19g fel porthladd i allforio llechi o Chwarel y Penrhyn.

Ysgolion golygu

Yr ymgyrch dros ysgol uwchradd Gymraeg i Fangor (a Llandudno) oedd ymgyrch gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1963); cangen Bangor oedd y gyntaf drwy Gymru.[3]

Dyma'r ysgolion fel ag y maent heddiw:

Bu Ysgol Gymraeg St. Pauls yma am gyfnod, cyn Ysgol y Garnedd.

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ym 1890, 1902, 1915, 1931 a 1971. Am wybodaeth bellach gweler:

Cludiant golygu

Mae gan Bangor orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu â Chaergybi a Chaer. Yn ogystal, Bangor yw prif echel rhwydwaith bysus y rhan yma o Wynedd, gyda gwasanaethau niferus i bentrefi lleol a lleoedd eraill. Mae gwasanaeth cyflym y Traws Cambria yn cysylltu Bangor a Chaerdydd trwy Aberystwyth.

Gefeilldref golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bangor (pob oed) (16,358)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bangor) (5,801)
  
36.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bangor) (8285)
  
50.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bangor) (2,217)
  
41.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Davies, Jenkins, Baines, Lynch, John, Nigel, Menna, Peredur (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 48. ISBN 978-0-7083-1953-6.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. The Visitor, rhif 27, tudalen 6
  3. Gwefan Owain Owain
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol golygu

 
Dinasoedd yng Nghymru
 
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Llanelwy | Tyddewi