Barf hen ŵr
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Urdd: Ranunculales
Teulu: Ranunculaceae
Genws: Clematis
Rhywogaeth: C. vitalba
Enw deuenwol
Clematis vitalba
L.
Clematis vitalba

Llwyn coediog sy'n ymledu'n flêr gan ddringo ydy barf hen ŵr neu farf yr hen ŵr (Saesneg: Old man's beard neu Traveller's joy; clematis vitalba). Mae'n perthyn i'r un teulu â blodyn ymenyn (Ranunculaceae). Gall dyfu rhwng 1-10 metr o uchter. Ceir blodau unigol ar goesyn 5 cm neu fwy heb betalau ond gyda 4 sepal lliw hufen neu wyrdd a llawer o frigerau lliw hufen.

Mae'r dail mewn parau gyferbyn â'i gilydd, a'r rheiny'n ddail cyfansawdd. Mae coesau'r dail yn gallu cordeddu o amgylch canghennau neu unrhyw beth a all eu dal. Ceir un hedyn, gyda phlyfun wedi deillio o'r stigma, mewn pen crwn. Blodeua rhwng Gorffennaf a Medi.

Mae sawl math o wyfynod yn hoff iawn o fwyta'r blodyn a'r dail.

Dolennau allanol golygu