Teitl anrhydedd yn is na barwn yw barwnig (talfyriad: 'Bart' neu 'Bt'). Ym Mhrydain mae yn rhodd y Goron fel baronetcy ers dyddiau Iago I o Loegr, a ddechreuodd eu gwerthu yn 1611 er mwyn codi arian. Un o'r uchelwyr a fanteisiodd ar y cyfle oedd Syr John Wynn o Wydir.

Ceir teitlau sy'n cyfateb i farwnig yn Ewrop, sef Nobile yn yr Eidal ac Edler von yn Awstria a De'r Almaen. Mae'r teitlau marchogion Almaenig ac Awstraidd Ritter a'r erfridder Iseldiraidd yn gyffelyb.

Bachigyn o'r gair 'barwn' yw 'barwnig'. Mae'n gorwedd hanner ffordd rhwng safle 'barwn' a 'marchog' (sy'n is).