Dosbarth o folecylau cemeg yw'r basau. Fe'u diffinnir[1] yn ôl eu dawn wrth doddi mewn dŵr i greu hydoddiant ag iddo grynodiad [OH-] yn fwy na 10−7 M. Gellir cymharu hyn ag asid, sy'n creu hydoddiant ag iddo grynodiad [H+] yn fwy na 10−7 M.

Bas
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endidau cemegol gyda chymwysiadau neu swyddogaethau tebyg Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebasid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bas (cemeg)

Mewn cemeg, mae bas yn hylif chwerw, llithrig ac sy'n newid lliw dangosydd megis litmws yn las. Mae hefyd yn adweithio gydag asid ac yn creu halennau drwy adwaith cemegol. Mae hydrocsid alcali yn fas, ac felly metel alcalïaidd sodiwm hydrocsid, calsiwm hydrocsid ayb. Mae'r mathau yma'n cynhyrchu ionau hydrocsid mewn hylif ac felly'n cael eu galw'n basau Arrheniws.

Basau cryf golygu

 
Pelenni hydrocsid sodiwm (ei ffurf cyffredin mewn labordai)

Mae basau cryf yn gyfansoddion cemegol syml a all dynnu proton (H+) o foleciwl asid gwan iawn mewn adwaith asid-bas. Ymhlith y basau cryf cyffredin mae:

Metalau grwp 1

Metalau grwp 2

Basau niwcleotid golygu

 
Adenin. Enghraifft o fas nitrogen organig (pwrin).

Mewn biocemeg a bioleg moleciwlar, cyfeirir at fasau fel rhan nodweddiadol niwcleotidau. Polymerau niwcleotid yw DNA ac RNA. Cynhwysir basau organig, yn cynnwys atomau nitrogen (y pwrinau Adenin a Gwanin, a'r pyrimidinau Thymin, Wracil a Cytosin ynghyd â basau llai cyfarwydd megys y pwrin Inosin), yn y molecylau niwcleotid hyn[2].

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Masterton W.L. & Hurley C.N. (1993) Chemistry. Principles & Reactions (2ed) Harcourt Brace Jovanovich publ
  2. Michael Kent (cyf Lynwen Rees Jones) (2005) Bioleg Uwch. Oxford/CBAC (tud 36)

Dolen allanol golygu