Pobl sy'n gysylltiedig a Gwlad y Basg, yng ngogledd Sbaen a de-orllewin Ffrainc yw'r Basgiaid (Basgeg: Euskaldunak).

Basgiaid
Cyfanswm poblogaeth
Tua 18 miliwn trwy'r byd
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Gwlad y Basg, Sbaen, Ffrainc, Ariannin, Mecsico, Unol Daleithiau
Ieithoedd
Basgeg, Sbaeneg
Crefydd
Cristnogaeth (Catholig), arall, dim

Daw'r enw "Basg" yn wreiddiol o enw llwyth y Vascones, oedd yn ôl yr hanesydd Groegaidd Strabo yn byw yn rhan orllewinol y Pyreneau ac i'r gogledd o Afon Ebro. Mae'r ardal hanesyddol a adwaenir fel Gwlad y Basg (Euskal Herria), yn awr wedi ei rhannu rhwng Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg a chymuned ymreolaethol Nafarroa, y ddau yn Sbaen, ac Iparralde, y diriogaeth Fasgaidd yn Ffrainc, sy'n ffurfio rhan o departement Pyrénées-Atlantiques.

Amcangyfrifir fod poblogaeth Gwlad y Basg i gyd tua 3 miliwn. Ceir nifer fawr o bobl o dras Fasgaidd mewn gwledydd megis yr Ariannin, Mecsico a'r Unol Daleithiau oherwydd ymfudo.

Atebion i'r cwestiwn "A ydych yn eich ystyried eich hun yn Fasg?" 1 = Ydwyf; 2 = Ydwyf, i ryw raddau; 3 = Nac Ydwyf; 4 = Wn i ddin / Gwrthod ateb.

Basgiaid enwog golygu