Dinas a chymuned yn département Calvados yn Normandi, gogledd-orllewin Ffrainc yw Bayeux. Mae'n enwog fel cartref Brodwaith Bayeux.

Bayeux
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth12,775 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Dorchester, Lübbecke, Chojnice, Eindhoven, Viborg, Sotome, Bafoussam Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCalvados, arrondissement of Bayeux Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd7.1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr32 ±1 metr, 67 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGuéron, Monceaux-en-Bessin, Saint-Loup-Hors, Saint-Martin-des-Entrées, Saint-Vigor-le-Grand, Vaucelles, Vaux-sur-Aure Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.2786°N 0.7039°W Edit this on Wikidata
Cod post14400 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Bayeux Edit this on Wikidata
Map
Eglwys Gadeiriol Bayeux

Saif Bayeux heb fod ymhell o'r arfordir, ychydig i'r gorllewin o ddinas Caen. Llifa Afon Aure trwy Bayeux.

Yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, roedd yn un o'r dinasoedd olaf i bargau ym meddiant y Saeson yn Ffrainc. Bu Mathau Goch yn gapten ar y garsiwn yn y cyfnof yma. Ar 16 Mai, 1450, bu rhaid i Mathau ildio Bayeux. Cafodd ef a'i wŷr, ynghyd â channoedd o ferched a phlant, ganiatâd gan y Ffrancod i ymadael, ond heb eu harfau.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd Bayeux yn un o'r rhannau cyntaf o Ffrainc i'w ryddhau o afael yr Almaen, ac ar 16 Mehefin 1944, yna y traddododd Charles de Gaulle ei araith bwysig gyntaf ar dir Ffrainc.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.