Beautiful Thing (ffilm)

ffilm comedi rhamantaidd am y cyfnod glasoed gan Hettie MacDonald a gyhoeddwyd yn 1996

Mae Beautiful Thing yn ddrama a ysgrifennwyd ac a berfformiwyd yn wreiddiol ym 1993 gan Jonathan Harvey. Rhyddhawyd ffilm o'r ddrama ym 1996 gan Channel 4 Films, ar ôl i'r ddrama gael ei haddasu gan Harvey. Yn wreiddiol, bwriadwyd darlledu'r ffilm ar y teledu'n unig ond yn sgîl ei phoblogrwydd cafodd ei rhyddhau mewn sinemau hefyd. Mae naws y ffilm yn drwm o dan ddylanwad y trac sain sy'n cynnwys caneuon Cass Elliot yn gyfangwbl.

Beautiful Thing

Poster y Ddrama
Cyfarwyddwr Hettie MacDonald
Cynhyrchydd Tony Garnett
Bill Shapter
Ysgrifennwr Jonathan Harvey
Serennu Linda Henry
Meera Syal
Glen Berry
Martin Walsh
Steven M. Martin
Scott Neal
Tameka Empson
Cerddoriaeth John Altman
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Channel 4 Films
Amser rhedeg 126 munud
Gwlad Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg

Plot golygu

Lleolir y ffilm ar Thamesmead, ardal ddosbarth gweithiol yn ne-ddwyrain Llundain, ar stad o dai cyngor.

Mae Jamie (Glen Berry), arddegwr sydd mewn cariad gyda bachgen arall yn ei ddosbarth, Ste (Scott Neal), yn gorfod ymdopi â'i fam sengl Sandra (Linda Henry), sydd yn brysur yn ceisio rhedeg ei thafarn ei hun. Newidia Sandra ei chariadon yn rheolaidd, a'r diweddaraf o'r rheiny yw Tony (Ben Daniels), hipi-newydd. Mae Sandra hefyd yn cweryla'n barhaus gyda Leah (Tameka Empson), cymydog anghwrtais a heriol sydd wedi'i gwahardd o'i hysgol ac sy'n cymryd cyffuriau, tra'n gwrando'n ddibaid ar recordiau Cass Elliot ei mam. Er fod Jamie yn parhau i guddio'i rywioldeb, mae'r ffaith ei fod yn berson mewnblyg na sydd yn hoffi pêl-droed yn peri i fechgyn eraill ei ddosbarth i'w fwlio.

Mae Ste, sy'n byw drws nesaf gyda'i frawd treisgar sy'n gwerthu cyffuriau a'i dad alcoholig, yn cael ei ymosod arno mor gïaidd un noson gan ei frawd, mae Sandra yn cymryd trueni drosto ac yn cynnig iddo aros yn ei fflat hi. Am nad oes gwely sbar ganddynt, mae Ste yn gorfod cysgu 'pen-i-gynffon' gyda Jamie. Ar yr ail noson maent yn rhannu gwely, ar ôl massage a mân siarad mae'r bechgyn yn newid eu trefniadau cysgu ac mae Jamie'n cusanu Ste am y tro cyntaf.

Trannoeth, mae Ste yn poeni ac yn gadael cyn i Jamie ddeffro, gan ei osgoi am ddyddiau. Ymddengys fod Jamie yn dechrau dod i delerau gyda'i rywioldeb a'i deimladau at Ste, ac mae'n ceidio dwyn copi o Gay Times o siop bapurau newydd. Yn y pen draw, daw Jamie o hyd i Ste mewn parc cyfagos ac mae'r ddau'n siarad; maent yn paratoi i adael gyda'i gilydd. Fodd bynnag, aiff pethau o le pan fo Sandra'n ceisio cael dial ar Leah am gario clecs, sydd yn ei thro yn bygwth dweud wrth bobl am Ste a Jamie, gan gyfaddef ei bod wedi dweud celwydd am Ste wrth ei frawd a'i dad. Ymateba Ste'n wael, gan wrthod Jamie a rhedeg i ffwrdd.

Yn raddol, mae Ste yn dechrau derbyn cariad Jamie ac mae perthynas y ddau'n dechrau datblygu pan maent yn mynd i far hoyw gyda'i gilydd. Mae Sandra'n eu dilyn ac yn darganfod eu cyfrinach. Daw Sandra i dderbyn perthynas y ddau a rhywioldeb ei mab. Cyrhaedda'r ffilm ei uchafbwynt gyda'r ddau fachgen yn dawnsio'n araf ar ddarn o dir agored tu allan eu fflatiau cyngor, i gân Cass Elliot Dream a Little Dream of Me. Tra bod hyn yn digwydd, mae Sandra'n dechrau dawnsio gyda Leah gerllaw fel symbol o undod a'u cefnogaeth, tra bod rhai o'r trigolion lleol mewn sioc ac eraill yn mwynhau'r foment eu hunain.

Trac sain golygu

 
Trac sain gan Cass Elliot a 'The Mamas & the Papas
  1. "It's Getting Better" Cass Elliot (Mann, Barry)
  2. "One Way Ticket" Cass Elliot (Lawrence, Stephen)
  3. "California Earthquake" Cass Elliot (Hartford, John)
  4. "Welcome to the World" Cass Elliot (Siegal)
  5. "Make Your Own Kind of Music" Cass Elliot (Mann, Barry)
  6. "Creeque Alley" The Mamas & the Papas (Phillips, Michelle)
  7. "Dream a Little Dream of Me" Cass Elliot (Andre, Fabian)
  8. "Move in a Little Closer, Baby" Cass Elliot (OConner, Robert)
  9. "California Dreamin'" The Mamas & the Papas (Phillips, John)
  10. "Monday, Monday" The Mamas & the Papas (Phillips, John)
  11. "I Saw Her Again" The Mamas & the Papas (Phillips, John)
  12. "Words of Love" The Mamas & the Papas (Phillips, John)
  13. "Dedicated to the One I Love" The Mamas & the Papas (Bass, Ralph)
  14. "Look Through My Window" The Mamas & the Papas (Phillips, John)
  15. "Go Where You Wanna Go" The Mamas & the Papas (Phillips, John)
  16. "Beautiful Thing Medley: Peppermint Foot Lotion/Beautiful Thing/The GL" - The Mamas & the Papas (Altman, John)