Arlywydd Cosofo yw Behgjet Isa Pacolli (ganed 30 Awst 1951) yn Marec, Cosofo. Bu'n Brif Weithredwr cwmni adeiladu o'r Swistir am rai blynyddoedd a dywedir mai ef yw dinesydd mwyaf cyfoethog Cosofo.[1]

Behgjet Pacolli
Ganwyd30 Awst 1951 Edit this on Wikidata
Prishtina Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCosofo, Y Swistir Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd, gwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Cosofo Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNew Kosovo Alliance Edit this on Wikidata
PriodAnna Oxa, Maria Pacolli Edit this on Wikidata
Gwobr/auDostyk Order of grade I, Honor of Nation Order Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.behgjetpacolli.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Y cyfnod cynnar golygu

Tra roedd yn ddisgybl yn yr ysgol uwchradd yn Pristina, bu'n rhaid iddo fyw mewn cwt coed-tân am bedair mlynedd a oedd yn eiddo i deulu o Dwrci gan fynd adre ddwywaith yr wythnos - 80 kilometr yn ôl a blaen - er mwyn nôl nwyddau. Yn 17 oed cyrhaeddodd Hamburg, yr Almaen, heb geiniog yn ei boced, a chychwynodd weithio yn y dociau er mwyn talu ei ffordd. Ar yr un pryd, astudiodd yn y Brifysgol. Dysgodd pum iaith arall yn y dociau.

Ar ôl cyfnod fel milwr cafodd swydd yn gwerthu i gwmni o Awstria, gan werthu i wledydd megis Iwgoslafia, Bwlgaria, Gwlad Pwyl a Rwsia.

Gwleidyddiaeth golygu

Ar 17 Mawrth 2006, sefydlodd gynghrair Cosofo Newydd (AKR), a daeth y drydedd blaid mwyaf poblogaidd yn etholiad 2007.

Ers 2004 bu'n weithgar iawn yn dadlau a lobio dros annibyniaeth lwyr i Gosofo.

Cyfeiriadau golygu