Dinas i'r gogledd o ddinas Gaza yn Llain Gaza yw Beit Lahiya neu Beit Lahia (Arabeg: بيت لاهيا‎). Mae'n gorwedd i'r gogledd o wersyll ffoaduriaid Jabaliya, ger Beit Hanoun a'r ffin ag Israel. Yn 2006 roedd ganddi boblogaeth o tua 59,540.

Beit Lahiya
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth89,838 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPadang Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlywodraethiaeth Gogledd Gaza Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Uwch y môr0 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.5539°N 34.5014°E Edit this on Wikidata
Map

Beit Lahiya oedd un o'r lleoedd cyntaf i ddioddef pan aeth byddin Israel i mewn i Lain Gaza ar y 3ydd o Ionawr 2009, fel ail ran ei ymosodiad ar y diriogaeth Balesteinaidd. Mewn canlyniad, ffôdd nifer o'r trigiolion i'r de i geisio lloches yn ninas Gaza, sydd dan ymosodiad trwm ei hun.

Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato