Arwrgerdd Hen Saesneg (iaith yr Eingl-Sacsoniaid) yw Beowulf, sy'n 3182 llinell gyflythrennol o ran hyd. Caiff y gerdd ei chyfrif fel y gerdd bwysicaf yn llenyddiaeth Hen Saesneg.

Tudalen gyntaf llawysgrif Beowulf

Hanes testunol golygu

Cedwir testun Beowulf mewn llawysgrif sy'n dyddio o tua dechrau'r 11g, ond credir gan mwyafrif o feirniadau i'r gerdd gyrraedd ei ffurf bresennol rhywbryd cyn hynny. Dichon fod hyn yn ddiwedd proses o drosglwyddo ar lafar ond ni ellir gwybod hyn i sicrwydd. Fe'i hystyrir yn un o'r cerddi Hen Saesneg pwysicaf. Cyfansoddwyd y gerdd gan feirdd anhysbys yn Nwyrain Anglia, Lloegr o bosibl, gan gyrraedd ei ffurf bresennol rywbryd rhwng y 7fed a'r 10g OC, ond fe'i lleolir yng nghymdeithas arwrol Llychlyn fel yr oedd hi cyn i'r Eingl-Saeson groesi'r môr. Y gred gyffredinol yw fod rhai o'r cymeriadau sydd yn y gerdd (e.e. y Brenin Hroðgar a'r Scyldings) yn bobl go-iawn, o gig a gwaed a oedd yn trigo yn y gwledydd Sgandinafaidd yn y 6g.[1]

Disgrifiad golygu

Mae'n dechrau trwy ddisgrifio cynhebrwng Scyld Scefing, un o arwyr mawr y Daniaid, cyn fynd ymlaen adrodd hanes yr arwr Beowulf yn ymladd yr anghenfil Grendel gan ei ladd. Mae mam Grendel wedyn yn ymosod arno ac mae Beowulf yn ei lladd hithau. Aiff adre'n arwrol ac yn fuddugoliaethus i Geatland yn Sweden. Ar ôl hanner can mlynedd, mae'n ymladd draig ac yn ei lladd ond caiff ei glwyfo'n angheuol wrth wneud hynny a chaiff ei gladdu gan ei gyfeillion yng ngolwg y môr. Er mai Beowulf yw prif cymeriad y gerdd, mae hi hefyd yn cynnwys nifer o ffigyrau a straeon eraill. Mae llawer o gymeriadau a llwythi sydd yn y gerdd hefyd i'w canfod mewn llenyddiaeth Sgandinafaidd e.e. Healfdene, Hroðgar, Halga, Hroðulf, Eadgils ac Ohthere), y llwythi Scyldings, Scylfings a'r Wulfings a rhai digwyddiadau megis y Frwydr ar Rew Llyn Vänern.[2]

Llyfryddiaeth golygu

Cafwyd nifer o argraffiadau o'r testun gwreiddiol dros y blynyddoedd a sawl cyfieithiad i Saesneg Diweddar a rhai ieithoedd eraill. Ceir cyfieithiad mydryddol Saesneg hwylus yn y gyfres Penguin Classics:

  • Michael Alexander (cyf.), Beowulf (Penguin, 1973; sawl argraffiad arall ers hynny)

Golygiad safonol o'r testun yw:

  • Friedrich Klaeber (gol.), Klaeber's Beowulf (2008; 4ydd argraffiad)

Ffilm golygu

Cafodd ei gwneud yn ffilm yn 2007, gyda brodorion ynys Prydain (y Brythoniaid) yn siarad Saesneg gydag acen Gymraeg.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Carl Edlund Anderson (1999). Formation and Resolution of Ideological Contrast in the Early History of Scandinavia (Ph.D. thesis). Prifysgol Caergrawnt. Adalwyd ar 12/03/2012.
  2. (Saesneg) Shippey, T. A. (2001). "Wicked Queens and Cousin Strategies in Beowulf and Elsewhere, Notes and Bibliography". In the Heroic Age. In the Heroic Age

Dolenni allanol golygu