Cyn-ddyn busnes, brocer stoc, cynghorwr buddsoddi, ac ariannwr Americanaidd oedd Bernard Lawrence "Bernie" Madoff (/[invalid input: 'icon']ˈmdɒf/;[1] 29 Ebrill 193814 Ebrill 2021).[2] Ef oedd cyn-gadeirydd anweithredol y farchnad stoc NASDAQ, ac roedd tu ôl i'r cynllun Ponzi mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau.

Bernard Madoff
Ffotograff Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau o Bernard Madoff, 2009.
Ganwyd29 Ebrill 1938 Edit this on Wikidata
Queens, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ebrill 2021 Edit this on Wikidata
Federal Medical Center, Butner Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Hofstra
  • Ysgol y Gyfraith, Brooklyn
  • Prifysgol Alabama
  • Ysgol Uwchradd Far Rockaway Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrocer stoc, ariannwr, economegydd, banciwr Edit this on Wikidata
TadRalph Madoff Edit this on Wikidata
PriodRuth Madoff Edit this on Wikidata
PlantMark Madoff, Andrew Madoff Edit this on Wikidata

Ym mis Mawrth 2009, plediodd Madoff yn euog i 11 o feloniaethau: twyll gwarantau, twyll cynghori buddsoddwyr, twyll post, twyll gwifr, prosesu arian anghyfreithlon yn rhyngwladol i alluogi twyll wrth werthu gwarantau, prosesu arian anghyfreithlon yn rhyngwladol i guddio elw o dwyll wrth werthu gwarantau, prosesu arian anghyfreithlon, gwneud datganiadau anwireddus, anudoniaeth, gwneud cofnod anwireddus â'r Comisiwn Gwarantau a Chyfnewid, a lladrad o gynllun budd-daliadau gweithwyr.[3] Cafodd ei ddedfrydu i'r carchar am 150 mlynedd lle bu farw yn 82 mlwydd oed.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Voice of America pronunciation guide". Voice of America. Cyrchwyd 29 Mai 2012.
  2. Bernie Madoff: Disgraced financier dies in prison , BBC News, 14 Ebrill 2021.
  3. (Saesneg) Transcript of 3/12/09 Guilty Plea Proceeding. Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau. Adalwyd ar 29 Mai 2012.
  4. Healy, Jack (29 Mehefin 2009). "Madoff Sentenced to 150 Years for Ponzi Scheme". The New York Times. Cyrchwyd 29 Mai 2012.