Seiclwr proffesiynol Seisnig oedd Albert Bert Walter Allen Harris (9 Ebrill 1873, Birmingham[1] - 21 Ebrill 1897,[2] Ysbyty Cyffredinol Birmingham). Magwyd yng Nghaerlŷr a mynychodd Holy Trinity School. Dechreuodd seiclo'n gystadleuol yn 14 oed a daeth yn ail yn yr 'Infirmary Sports' yn Aylestone Road Sports Ground (Grace Road Cricket Ground heddiw) dyflwydd yn ddiweddarach.[3]

Bert Harris
Ganwyd9 Ebrill 1873 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 1897 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bywgraffiad golygu

Cafodd Harris ei fuddugoliaeth cyntaf o bwys ym Mryste yn 1889, gan gyflawni pum milltir mewn 18 munud a 25 eiliad. Roedd Harris yn byw yn Davidale Houses, Welford Road, Knighton, Caerlŷr gyda'i deulu yn 1891, yn gweithio fel Clerc Gwneuthurwr Esgidiau.[4] Torodd Harris recordiau milltir a tri-chwarter milltir yn 1893 cyn troi'n broffesiynol yn 1894 ac ymuno â'r London Polytechnic Cycle Club. Hyfforddwyd gan Sam Mussabini i ennill ei bncampwriaeth proffesiynol cyntaf yn 1894. Disgynodd oddiar ei feic mewn ras yng Nghaerdydd yn 1895 a cnocwyd ef yn anymwybodol am 48 awr. Er hyn, bu'n ddigon iach erbyn mis Medi i dorri'r record Proffesiynol Seisnig yn Velodrome Herne Hill, gan gyflawni hanner milltir mewn 57.3 eiliad a'r milltir mewn 118.3 eiliad.[3]

Cystadlodd Bert ochr yn ochr â enwogion seiclo yn yr Antipodes yn 1895 a 1896, gan ennill £400 mewn un ras yn unig.[3] Fe enillodd £15 yr wythnos ar gyfartaledd.[5] Bu mor llwyddiannus dechreuodd bobl gyfeirio at 1896 fel Blwyddyn Harris.[5]

Cystadlodd yn ei ras olaf ar ddydd Llun y Pasg yn 1897, ras 10 milltir oeddi, a tua 4 milltir i mewn i'r ras daeth oddiar ei feic gan daro ei ben ar y llawr caled. Roedd yn anymwybodol a bu farw deuddydd yn ddiweddarach yn Ysbyty Cyffredinol Birmingham.[3]

Coffa Harris golygu

Codwyd cofeb yn Mynwent Welford Road, Caerlŷr ac mae'n dyst iw boblogrwydd:[3]

"This memorial stone is erected by the cyclists of England

in token of the sincere respect
and esteem in
which he was held by wheelmen
the world over.
He was ever a fair and honourable rider
and sportsman and his lamented death cut
off in its prime one of the brightest and
most genial spirits of cycledom.
He fell on the racing path at Aston on
Easter Monday 1897 and succumbed to
his injuries at the General Hospital

Birmingham April 21st 1897 aged 24 years."

Ysgrifennodd Dick Swann lyfr amdano gyda'r teitl Bert Harris of the Poly: A Cycling Legend, cyhoeddwyd gan V Harvey yn Ionawr 1974. ISBN 9780855440107

Mae dyn busnes o Gaerlŷr, Roger Lovell, yn gobeithio codi £30,000 er mwyn codi cerflun cyhoedus er mwyn coffa Harris. Fe aeth Lovell at y BBC yn ogystal i ofyn cael creu drama ddogfen, cafodd hwn ei greu gan ail-luniadwyr Fictorianaidd mewn lleoliad yng Nghaerlŷr. Mewn cyd-ddigwyddiad anhygoel, roedd yr actor a chwaraeodd Bert yn ddisgynnydd iddo.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Mynegai Genedigaethau Lloegr a Chymru: Albert Walter A Harris, chwarter Apr-May-Jun 1873, ardal cofrestru Aston, Cyfrol: 6d Tudalen: 331 Angen cofrestru i weld y ffynhonnell (am ddim)
  2. Mynegai Marwolaethau Lloegr a Chymru: Albert Walter A Harris, chwarter Apr-May-Jun 1897, 24 oed, ardal cofrestru Birmingham, Cyfrol: 6d Tudalen: 65 Angen cofrestru i weld y ffynhonnell (am ddim)
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 "Trawsgrifiad o'r gofeb, lluniau a bywgraffiad byr". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2001-02-11. Cyrchwyd 2001-02-11.
  4. Cyfrifiad 1891 - RG 12/2498. Davidale Houses, Welford Road, Knighton, Leicester
    Pen Teulu: William Harris 41, Commerical Traveller, ganwyd yn Malvern
    Priod: Emma Harris 39, ganwyd yn Leicester
    Merch: Lillie 19, Shoe Fitter, ganwyd yn Birmingham
    Mab: Albert 17, Shoe Manufacturers Clerk, ganwyd yn Birmingham
    Merch: Ethel 16, Shoe Fitter, ganwyd yn Birmingham
  5. 5.0 5.1 5.2 BBC Inside Out, East Midlands