Athronydd a bardd yn yr iaith Sansgrit oedd Bhartrihari (fl. 5g, neu'r 6g efallai). Cyfansoddodd y Satrakatraya, casgliad o gerddi Sansgrit mewn tair rhan sy'n ymdrin â doethineb gwleidyddol, serch erotig, ac ymwrthod â'r byd a'i bethau. Yn ogystal mae'n awdur tybiedig traethawd bwysig ar athroniaeth iaith.

Bhartrihari
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Ei fywyd golygu

Ychydig a wyddom am fywyd Bhartrihari. Roedd yn byw rhywbryd rhwng canol y 5g a diwedd y chweched (neu mor ddiweddar â thua 570-650 efallai). Ceir mwy nag un un traddodiad amdano. Mae traddodiad poblogaidd India yn ei bortreadu fel brenin a ddiflasodd ar y byd a'i gariadon niferus ond arwynebol ac a droes ei gefn ar gymdeithas i fyw fel meudwy. Mae traddodiad arall yn dweud ei fod yn fardd llys yng ngwasanaeth brenin Maitraka teyrnas Valabhi ac yn frawd i'r brenin enwog Vikramaditya. Yn ôl y teithiwr Tsieineaidd I-tsing (fl. 670), fodd bynnag, yr oedd Bhartrihari yn ramadegwr Sansgrit o fri a Bwdhydd.

Ei waith golygu

Ei brif waith yw'r Satrakataya (Y Tair sataka neu ganrif):

  • Sringara-sataka, ar serch a'r nwydau.
  • Niti-sataka, ar ddoethineb bydol, yn arbennig ynghylch gwleidyddiaeth a moes ymarferol.
  • Vairagya-sataka, ar ymwrthod ar y byd a byw'r bywyd ysbrydol

Dim ond y cyntaf sy'n cael ei dderbyn gan bawb fel gwaith dilys y bardd. Bardd serch telynegol yw Bhartrihari, yn y traddodiad Indiaidd clasurol. Merched yw ffynhonnell pob pleser a llawenydd ond mae serch yn dwyllodrus a diflanedig. Mae ganddo synnwyr hiwmor ac eironi mwyn ac mae ei gerddi yn llawn o drosiadau disglair a synhwyrus.

Priodolir i Bhartrihari ddau waith arall yn ogystal, ond mae eu hawduraeth yn ansicr:

  • Ravana-vadha, cerdd hir a phedantig braidd am weithgareddau arwrol y duw Rama.
  • Vakya-padiya, traethawd ar farddoni, gramadeg ac llefaru. Mae hyn yn waith enwog a dylanwadol ar athroniaeth iaith ond nid oes sicrwydd mai Bhartrihari a'i sgwennodd.

Llyfryddiaeth golygu

Gwaith Bhartrihari golygu

  • J.M. Kennedy (cyf.), The Satakas or Wise Sayings of Bhartrihari (Llundain, d.d.)
  • Barbara Stoler Miller (cyf.), Bhartrihari and Bilhana: The Hermit and The Love-Thief (1967; argraffiad newydd, Penguin India, Delhi Newydd, 1990). ISBN 0-14-044584-6

Llyfrau amdano golygu

  • G. Sastri, The Philosophy of Word and Meaning. Some Indian Approaches with Special Reference to the Philosophy of Bhartrihari (Calcutta, 1959)
  • Benjamin Walker, Hindu World. An encyclopedic survey of Hinduism (Indus Publications, Delhi Newydd, 1995, 2 gyfrol), Cyfrol 1, d.g. 'Bhartrihari'. ISBN 81-7223179-2