Ynys yng Ngwlff Gini oddi ar arfordir gorllewinol Affrica yw Bioko. hefyd Bioco. Mae'n rhan o Gini Gyhydeddol. Yr hen enw ar yr ynys oedd Fernando Pó neu Fernando Poo, ac mae brodorion yr ynys yn ei galw yn Otcho.

Bioko
Arena Blanca beach, Bioko Island

Mae Bioko yn 70 km o hyd a 32 km o led, gydag arwynebedd o 2017 km². Ceir prifddinas Gini Gyhydeddol, Malabo (gynt Santa Isabel), ar yr ynys. Cyrhaeddodd y fforiwr Portiwgeaidd Fernão do Pó yma yn 1472, a rhoddodd yr enw Formosa Flora ("blodau gwych") arni, ond newidiwyd yr enw i Fernando Pó yn 1494. Trigolion brodorol yr ynys yw'r Bubi, sy'n siarad un o'r ieithoedd Bantu.