Prawf meddygol diagnostig lle gymerir sampl o feinwe o'r corff i'w harchwilio yw biopsi. Gall y sampl ddod o unrhyw le yn y corff bron, ac mae'r ffordd y gwneir yn dibynnu ar y lleoliad. Mae meddyg yn edrych ar y sampl o dan ficrosgop i weld y celloedd unigol ac yn profi'r celloedd trwy weld eu hadwaith i gemegau amrywiol.[1] Defnyddir biopsïau gan feddygon i wneud diagnosis ar gyfer ystod eang o gyflyrau neu i fesur difrifoldeb cyflwr y claf,[2] ac mae'r math o brawf neu archwiliad yn dibynnu ar ba cyflwr neu arwyddion y mae'r meddyg yn chwilio amdanynt.[1]

Biopsi
Enghraifft o'r canlynolmath o brawf meddygol Edit this on Wikidata
Mathinvasive test, sampling Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Biopsi o'r ymennydd

Weithiau gwneir biopsïau yng nghanol llawdriniaeth fel y gall llawfeddyg gael y canlyniadau o fewn munudau[3] a gwneud penderfyniad yn y fan a'r lle ynglŷn â'r ffordd orau o drin.[1] Gall yr amser mae'n ei gymryd i gael canlyniadau ar fiopsïau arferol ddibynnu ar yr ysbyty a difrifoldeb cyflwr y claf; gall canlyniadau prawf taeniad serfigol rheolaidd cymryd hyd at 6 wythnos, tra bo profion i gadarnhau diagnosis o gyflwr difrifol megis canser yn aml yn cymryd llai nag wythnos. Weithiau ni fydd canlyniadau'r biopsi yn derfynol felly efallai y bydd y claf yn cael y biopsi eto neu gael profion pellach, gwahanol i wirio'r diagnosis.[3]

Gwneir y rhan fwyaf o fiopsïau yn ystod apwyntiad fel claf allanol, felly nid yw'r claf yn aros yn yr ysbyty dros nos. Ond os rhoddir anesthetig cyffredinol yn ystod y weithdrefn, er enghraifft yn ystod biopsi ar organ mewnol, mae'n bosib y cedwir y claf yn yr ysbyty dros nos er mwyn gorffwys a sicrhau nad oes unrhyw waedu mewnol. Mae'n bosib y bydd angen nifer fach o bwythau neu orchudd ar glwyf os gwneir endoriad yn ystod y biopsi.[4]

Mathau golygu

Biopsi crafu golygu

Mewn rhai achosion mae'n bosib i grafu haen allanol celloedd i ddarparu sampl ddigonol i'w harchwilio, er enghraifft mewn prawf taeniad serfigol, lle ddefnyddir sbatwla i grafu sampl o gelloedd yn ysgafn o geg y groth i chwilio am arwyddion o ganser. Gall y math hwn o fiopsi crafu fod yn anghyfforddus ond nid yn boenus, felly ni ddefnyddir unrhyw anesthetig.[5]

Biopsi tyllu golygu

Defnyddir biopsi tyllu i gael sampl o wyneb y croen, trwy wneud twll bach yn y croen a chymryd sampl o'r haenau uchaf o feinwe gan ddefnyddio offeryn biopsi tyllu. Gall hefyd defnyddio cyllell llawfeddyg i dorri sampl o wyneb y croen ac yna pwytho'r clwyf yn ôl at ei gilydd. Fel arfer rhoddir anesthetig lleol i fferru'r rhan berthnasol o'r croen fel nad yw'r claf yn teimlo unrhyw boen nac anghysur. Defnyddir y sampl o wyneb y croen i wneud diagnosis ar gyfer cyflyrau'r croen, megis man geni a dybir y gall fod yn ganseraidd.[5]

Biopsi nodwydd golygu

Defnyddir biopsi nodwydd i gael sampl o feinwe sydd o dan wyneb y croen, trwy wthio nodwydd drwyddo i'r rhan y mae angen ei harchwilio, yn aml gyda sgan uwchsain neu belydr-x i dywys y llawfeddyg i sicrháu ei fod yn gosod y nodwydd yn yr union fan cywir. Fel arfer rhoddir anesthetig lleol fel nad yw'r claf yn teimlo unrhyw boen, neu dawelydd ar gyfer rhai biopsïau megis sampl mêr asgwrn.[5]

Defnyddir nodwydd wag drwchus i wneud biopsïau ar organau fel yr afu neu'r arennau. Gofynnir i'r claf anadlu i mewn a dal ei anadl tra caiff y nodwydd ei gwthio drwy'r abdomen i mewn i'r organ berthnasol a chymerir sampl o'r feinwe mewn rhai eiliadau. Fel arfer, rhoddir anesthetig lleol yn hytrach na chyffredinol i'r claf gan y bydd yn rhaid iddo fod ar ddihun i anadlu i mewn. Defnyddir nodwydd wag drwchus hefyd i gymryd samplau o fêr esgyrn, a gan amlaf cymerir sampl asgwrn o frig asgwrn y pelfis, ychydig islaw gwasg y claf. Caiff y nodwydd ei throi wrth gael ei gwthio i mewn i'r asgwrn i wthio sampl o'r mêr i ganol y nodwydd, er mwyn ei dynnu oddi yno.[5]

Allsugnad nodwydd fain golygu

Allsugnad nodwydd fain (FNA) yw'r enw ar y weithdrefn sy'n defnyddio nodwydd wag denau mewn biopsi, er enghraifft er mwyn archwilio lwmp ar y frest. Caiff y nodwydd ei gwthio i mewn i'r lwmp a chymerir sampl o feinwe'r lwmp i'w phrofi.[5]

Endosgopi golygu

Mewn endosgopi fe gysylltir offer llawdriniaethol bach i ficrosgop optig ffibr tenau hyblyg a fe'i ddefnyddir i weld y tu mewn i'r corff a chymryd sampl o feinwe. Mae goleuadau bychain ar ddiwedd y tiwbau i alluogi'r llawfeddyg edrych y tu mewn i'r corff a pherfformio'r weithdrefn. Gwthir y tiwbau gweld, a elwir yn endosgopau, i mewn trwy agorfeydd corfforol megis y gwddf neu'r anws neu drwy doriadau bychain a wneir yn bwrpasol gan lawfeddyg. Mae mynedfa'r endosgop yn dibynnu ar ba ran o gorff y claf a archwilir, er enghraifft y gwddf i archwilio'r ysgyfaint, neu'r wain a cheg y groth i archwilio'r groth.[5]

Biopsi capsiwl golygu

Dewis amgen i endosgopi pan fydd angen gwneud biopsi ar leinyn y coluddyn yw biopsi capsiwl. Llynca'r claf capsiwl sydd wedi'i gysylltu wrth diwbyn tenau, a chymerir pelydr-x i weld pa bryd y gyrhaeddir y pwynt cywir yn y perfeddyn. Creir pwysedd yn y tiwb i sugno sampl o leinin y coluddyn i mewn i'r capsiwl, ac yna gellir ei dynnu yn ôl allan o'r corff er mwyn archwilio'r sampl.[5]

Trychiad llawdriniaethol golygu

Mewn trychiad llawdriniaethol fe wneir llawdriniaeth, o bosib o dan anesthetig lleol neu gyffredinol, i dynnu'r feinwe gyfan sydd angen ei harchwilio, fel arfer lwmp. Os canfyddir lwmp yn ystod llawdriniaeth gellir rhewi sampl o feinwe a chymryd tafell o'r bloc rhewedig i'w gwirio ar unwaith, wrth i'r llawdriniaeth mynd yn ei blaen. Dadansoddir canlyniadau o'r darn rhewedig gan y llawfeddyg i benderfynu ar y driniaeth orau, ac os bydd y claf o dan anesthetig o hyd a'i fod wedi rhoi caniatâd, gellir gwneud hynny yn y fan a'r lle.[5]

Diagnosteg golygu

Canser golygu

Defnyddir biopsïau i benderfynu os yw lwmp neu dyfiant ar gorff claf yn ganseraidd (malaen) neu'n anghanseraidd (anfalaen).[2]

Ffibrosis systig golygu

I wneud diagnosis ar gyfer ffibrosis systig gellir cynnal prawf cemegol ar sampl o gelloedd i weld os ydynt yn adweithio mewn ffordd benodol os canfyddir bod y genyn ar gyfer y clefyd yn bresennol. Gall y prawf hwn cael ei gynnal ar sampl o gelloedd o frych ffetws i helpu rhieni i ddewis a ddylid terfynu neu barháu â beichiogrwydd.[2]

Sgîl-effeithiau golygu

Gall cymryd samplau celloedd o'r system atgenhedlu fenywol (leinin y groth neu geg y groth) achosi ychydig o waedu ysgafn yn y wain, a gall claf gwrywaidd sydd wedi cael biopsi prostad cael ychydig o waed yn ei wrin.[4]

Mae'r mwyafrif o fiopsïau yn weithdrefnau di-boen, ond efallai y caiff y claf boen fud neu anghysur ysgafn os cymerwyd y sampl o organ pwysig megis yr afu neu o fêr asgwrn. Gall meddyg cynghori claf ar ba poenliniarydd i gymryd i liniaru'r poen hwn.[4]

Anaml iawn y ceir gwaedu difrifol o ganlyniad i fiopsi, ond yn yr achos honno mae'n bosib y bydd angen llawdriniaeth neu drallwysiad gwaed ar y claf.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  Biopsi: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 17 Medi, 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2  Biopsi: Pam mae ei angen?. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 4 Hydref, 2009.
  3. 3.0 3.1  Biopsi: Canlyniadau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 9 Hydref, 2009.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3  Biopsi: Gwella. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 9 Hydref, 2009.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 5.5 5.6 5.7  Biopsi: Sut mae'n cael ei wneud?. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Medi, 2009.