Fitamin o deulu fitamin B yw biotin neu fitamin B7. Fel pob fitamin, mae ei angen ar y corff er mwyn gweithio'n iawn. Fel gweddill teulu fitamin B gall biotin hydoddi mewn dŵr. Mae'n cynnwys cylch iwreido (sef tetrahydroimidizalone) wedi ei uno gyda chylch tetrahydrothiophene. Mae asid falerig yn sownd wrth un o atomau carbon y cylch hwn.

Biotin
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathfitamin B, alkaloid, heterocyclic compound, asid carbocsylig Edit this on Wikidata
Màs244.088 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₀h₁₆n₂o₃s edit this on wikidata
Enw WHOBiotin edit this on wikidata
Clefydau i'w trinInherited metabolic disorder edit this on wikidata
Rhan oresponse to biotin, cellular response to biotin, biotin transmembrane transporter activity, biotin import across plasma membrane Edit this on Wikidata
Yn cynnwysnitrogen, sylffwr, carbon, ocsigen, hydrogen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ei bwrpas golygu

Mae biotin yn angenrheidiol ar gyfer twf celloedd, creu asid brasterog (fatty acids) a metaboledd brasder ac asidau amino. Mae'n cynorthwyo gyda nifer o adweithiau metaboledd ac yn cynorthwyo i symud carbon deuocsid. Cynorthwya hefyd gyda'r broses o gadwraeth lefelau siwgwr. Mae'n dda ar gyfer greu ewinedd a gwallt cryf ac o'r herwydd fe ddown ar ei draws mewn llawer o gosmetics masnachol ar gyfer y gwallt a'r croen.

Anamal iawn y down ar draws rhywun â diffyg biotin, gan fod bacteria yn y bol fel arfer yn creu digonedd ohono.