Blathmac mac Cú Brettan

Roedd Blathmac mac Cú Brettan neu Blathmac mac Con Brettan (fl. 760) yn fardd Gwyddeleg (fíle) a ganai ar bynciau crefyddol.

Blathmac mac Cú Brettan
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Credir iddo gael ei eni yn ne Airgíalla (Swydd Monaghan heddiw), yn Iwerddon). Cafodd Blathmac ei addysg mewn ysgol fynachaidd ac aeth yn ei flaen i fod yn fynach ei hun, gan gael ei ddylanwadu'n gryf gan y mudiad Céli Dé (Culdee).

Ceir llawysgrif sy'n cynnwys y ddwy gerdd ganddo sydd wedi goroesi, dau fyfyrdod ar fywyd Crist a'r Forwyn Fair, yng nghasgliad llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon, lle cawsant eu hail-ddarganfod gan yr hanesydd llên James Carney. Mae'r llawysgrif ei hun yn dyddio i'r 17g.

Testunau golygu

  • James Carney (gol. a chyf.), The Poems of Blathmac mac Con Brettan (Dulyn, 1964).

Ffynonellau golygu