Bloody Sunday (ffilm)

ffilm

Ffilm am farwolaethau "Bloody Sunday" yn Derry, Gogledd Iwerddon ym 1972 ydy Bloody Sunday (2002). Er i'r ddrama gael ei chynhyrchu gan Granada Television fel ffilm deledu, cafodd ei noson agoriadol yng Ngŵyl Ffilm Sundance ar 16 Ionawr, ychydig ddyddiau cyn iddi gael ei darlledu ar ITV ar 20 Ionawr, ac yna mewn rhai sinemau yn Llundain o 25 Ionawr. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Paul Greengrass. Er fod y ffilm wedi'i lleoli yn ninas Derry, cafodd ei ffilmio yn Ballymun yng Ngogledd Dulyn. Fodd bynnag, ffilmiwyd rhai golygfeydd yn Ninas Derry, yn Sgwâr Guildhall ac yn Creggan ar yr union lwybr roedd y protestwyr wedi gorymdeithio arno ym 1972.

Eginyn erthygl sydd uchod am sinema Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.