Bochrwyd

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref yng nghymuned Y Clas-ar-Wy, Powys, Cymru, yw Bochrwyd (Saesneg: Boughrood). Saif ar lan ddwyreiniol Afon Gwy, i'r gorllewin o'r Clas-ar-Wy, gyda phont yn ei cysylltu a phentref Llys-wen.

Bochrwyd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirY Clas-ar-Wy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.045°N 3.271°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Adeiladwyd yr eglwys bresennol, sydd wedi ei chysegru i Sant Cynog, yn 1854; adeiladwyd tŵr newydd yn 2004 i gymeryd lle yr un a ddymmchwelwyd yn y 1970au. Ceir hen groes garreg ganoloesol ym mynwent yr eglwys.

Eglwys Bochrwyd a'r hen groes ganoloesol.

Ceir olion castell canoloesol yma, gyda thŷ wedi ei adeiladu ar y safle.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[2]


Oriel golygu

Ffotograffau gan Percy Benzie Abery (c. 1910)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  2. Gwefan Senedd y DU