Bodfari

pentref a chymuned yn Sir Ddinbych

Pentref bychan a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Bodfari ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir wrth droed Bryniau Clwyd tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych, Dyffryn Clwyd. I'r dwyrain o'r pentref ceir bryn isel Moel y Gaer a'i fryngaer a bryn uwch Moel y Parc. Mae Bodfari yn gorwedd ar y lôn A541 o Ddinbych i Gaerwys trwy fwlch ym Mryniau Clwyd. Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf reilffordd ar yr hen reilffordd rhwng Dinbych a'r Wyddgrug.

Bodfari
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.21°N 3.36°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000143 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ093701 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auJames Davies (Ceidwadwyr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Gareth Davies (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan James Davies (Ceidwadwyr).[2]

Rhed Llwybr Clawdd Offa trwy'r pentref. I'r gogledd ceir bryngaer Moel y Gaer sy'n dyddio o Oes yr Haearn.

Pobl o Fodfari golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bodfari (pob oed) (327)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bodfari) (68)
  
21.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bodfari) (168)
  
51.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bodfari) (53)
  
34.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.