Bore da (ymarfer)

Ymarfer codi-pwysau ydy bore da (ymarfer). Mae'r symudiad yn debyg i berson yn moesymgrymu wrth gyfarch rhywun trwy ddweud "Bore da". Mae'r cyhyryn sythu sbinol ar waelod y cefn yn gweithio'n isometraidd er mwyn cadw'r asgwrn cefn mewn safle estynedig tra bod llinyn y gar a chyhyrau'r ffolennau yn gweithio'n isotonigaidd er mwyn ymestyn y glun. Defnyddir cyhyrau eraill wrth sefydlogi'r pwysau ar y cefn a chynnal cydbwysedd.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Bore da o'r Saesneg "Good-morning". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.