Dinas yng ngogledd-orllewin Tiwnisia yw Bou Salem. Mae'n gorwedd yn nyffryn afon Medjerda, ar lan ogleddol yr afon honno, yn nhalaith Jendouba, tua hanner ffordd rhwng dinasoedd Jendouba (i'r gorllewin) a Béja (i'r dwyrain). Mae ganddi boblogaeth o 20,098 (2004).

Bou Salem
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth35,192 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirJendouba Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.611118°N 8.969822°E Edit this on Wikidata
Cod post8170 Edit this on Wikidata
Map

I'r gogledd o'r dref mae'r tir yn codi'n araf i fynyddoedd coediog y Kroumirie. Mae Bou Salem yn ganolfan amaethyddol a cheir nifer o ffermydd yn y wlad o'i chwmpas. Mae ganddi orsaf ar reilffordd Tiwnis-Ghardimaou a rhed y briffordd GP5 trwy'r dref. Ar ei chyrion ceir pont ar afon Bou Hertma, sy'n disgyn o'r Kroumirie i'w chymer ar afon Medjerda gerllaw.

Enwir y dref ar ôl sant lleol, Sidi Bou Salem.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.